CANLLAW’R CYNGHORYDD DA

Rhagair

Oddi wrth Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Canllaw ar gyfer pob cynghorydd cymuned a thref yw hwn, ond yn benodol ar gyfer y rheini a etholwyd neu a gyfetholwyd i gyngor yn ddiweddar. Diolch i bob un ohonoch am ymgymryd â swyddogaeth werthfawr cynghorydd lleol, a’r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil hynny.

Mae cynghorau cymuned a thref yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau ac am ddarparu a chynnal amwynderau yn eu hetholaethau lleol. Rydych hefyd yn cynrychioli buddiannau aelodau unigol o’r cyhoedd a’ch cymuned ehangach. Gall gwaith cynghorydd fod yn amrywiol a chymhleth, ond gall hefyd roi llawer iawn o foddhad. Mae’r canllaw hwn yn amlinellu swyddogaethau, dyletswyddau a chyfrifoldebau cynghorydd cymuned a thref. Dyma gychwyn ar broses ddysgu barhaus; bydd eich clerc a’ch cadeirydd yn gallu trafod yr hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael. Bydd eisiau ichi ymgyfarwyddo hefyd â chyfrifoldebau a rheolau sefydlog eich cyngor.

Mae cynghorwyr lleol cymuned a thref mewn sefyllfa unigryw i allu helpu i feithrin cadernid ac ysgogi adnewyddiad mewn ardaloedd drwy ddeall cryfderau ac asedau cymunedau, a mynd ati i ymgysylltu â phobl leol a busnesau lleol i helpu i nodi a diwallu anghenion ac uchelgeisiau lleol.

Wrth i chi gyflawni eich swyddogaeth, gan ennill gwybodaeth a phrofiad, cewch y boddhad personol o wybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth pendant i’ch cymuned. Rwy’n mawr obeithio y gwnewch chi fwynhau wynebu’r heriau lu a chael boddhad o fod yn gynghorydd.

Cynnwys

Cyflwyniad                                                                                                                               5

Rhan Un:             I ble rydych yn mynd?                                                                                 6

  1. Cynghorwyr 6
  2. Y cyngor 6
  3. Eich cymuned 8

Rhan Dau:           Gofal a sylw dyladwy                                                                                10

  1. Y rheolau 10
  2. Rheolau i gynghorwyr 12
  3. Rheolau i gyflogwyr 15
  4. Rheolau ar gyfer ymdrin ag arian cyhoeddus 15

Rhan Tri:             Cychwyn arni                                                                                             18

  1. Cyfarfodydd 18
  2. Bod yn barod 19
  3. Yn y cyfarfod 20
  4. Ar ôl y cyfarfod 21

Rhan Pedwar: Cyflawni’r hyn sydd ei angen                                                                       22

  1. Gwasanaethau 22
  2. Paratoi cynllun 23
  3. Cynllunio gwlad a thref 24
  4. Y cyngor cymuned gweithredol 26

Rhan Pump:        Offer angenrheidiol                                                                                  28

  1. Peryglon 28
  2. Dogfennau pwysig 28
  3. Ffynonellau cyngor (a phwerau a dyletswyddau cyfreithiol) 29
  4. Geirfa 39

Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn cyflwyno gwaith cynghorau cymuned a thref a’r rhan a chwaraewch fel cynghorydd ar haen gyntaf llywodraeth leol ac fel yr un sydd agosaf at y cyhoedd. Bydd hefyd yn ddeunydd cyfeirio defnyddiol i chi. Rhennir y canllaw yn bum rhan i’ch helpu i lwyddo fel cynghorydd newydd, neu hyd yn oed fel cynghorydd profiadol.

Rhan un:             I ble rydych yn mynd?

Mae Rhan Un yn cyflwyno’r hyn y gallwch ei wneud fel cynghorydd a’r hyn y gall eich cyngor cymuned neu dref ei gyflawni. Mae’n eich rhoi ar ben ffordd fel y gallwch wasanaethu a chynrychioli eich cymuned.

Rhan dau:          Gofal a sylw dyladwy

Yma amlinellir yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud a’r hyn na ddylech ei wneud fel cyngor, fel cynghorydd, fel cyflogwr ac fel rheolwr ariannol. Os ydych chi a’ch cyngor yn deall y gyfraith, yna gallwch weithio’n hyderus.

Rhan tri:             Cychwyn arni

Beth sy’n digwydd yng nghyfarfodydd y cyngor? Mae’r penderfyniadau a wneir mewn cyfarfodydd yn llywio’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud ac mae’r cyfarfodydd gorau yn gynhyrchiol, yn broffesiynol – a byth yn rhy hir!

Rhan pedwar: Cyflawni’r hyn sydd ei angen

Mae a wnelo hyn â gweithredu ar ran pobl leol. Archwilir gweithio mewn partneriaeth a rôl gynrychiadol y cyngor yn yr adran hon; adolygir y ddarpariaeth o ran gwasanaethau a rôl eich cyngor yn y system cynllunio gwlad a thref. Pwysleisir y gred mewn cynghorau gweithredol hefyd.

Rhan pump:       Offer angenrheidiol

Yn olaf, cewch syniadau defnyddiol ar gyfer yr offer y mae arnoch ei angen fel cynghorydd, gan gynnwys y peryglon, cyhoeddiadau, dogfennau defnyddiol a chysylltiadau os ydych am gael cyngor.

Mae’r mynegai’n fan cyfeirio cyflym pan fydd angen i chi wybod rhywbeth ar frys. Mae geiriau a ddynodir mewn print bras drwy gydol y testun (y tro cyntaf y dewch ar eu traws) yn cael eu hesbonio yn yr eirfa.

Rhan Un: I ble rydych yn mynd?

 

1. Cynghorwyr

Rydych yn gynghorydd; rydych yn 18 oed neu’n hyˆn ac yn ddinesydd Prydeinig, neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd. Nid ydych yn gyflogedig gan y cyngor gan nad yw’r gyfraith yn caniatáu hynny.

Rydych yn un o tua 8,000 o gynghorwyr cymuned a thref yng Nghymru. Byddwch yn atebol i bobl leol am bethau sy’n digwydd yn lleol; felly pam rydych am wneud hyn? Y tebygrwydd yw eich bod am wneud rhywbeth cadarnhaol ac, fel y rhan fwyaf o gynghorwyr, rydych yn gobeithio gwneud gwahaniaeth drwy ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eich cymuned.

A wnaethoch sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad? A gynhaliwyd pleidlais neu a gawsoch eich ethol yn ddiwrthwynebiad? Efallai mai cael eich cyfethol a wnaethoch; mae hyn yn digwydd pan fydd y cyngor yn dewis pwy fydd yn llenwi’r seddau gwag os nad oes digon o ymgeiswyr adeg etholiad. At hynny, os daw swydd yn wag rhwng etholiadau, rhaid i’r cyngor ganfod a yw’r etholwyr eisiau etholiad cyn y gallant gyfethol. Mae rhai cynghorwyr yn cynrychioli plaid wleidyddol ac mae eraill yn annibynnol ar gysylltiadau pleidiol. Pa ffordd bynnag y dewch yn gynghorydd, unwaith y byddwch yn derbyn y swydd yn ffurfiol, nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth; rydych yn gynghorwyr sy’n gweithio gyda’ch gilydd i wasanaethu eich cymuned. Eich tasg chi yw dwyn materion lleol i sylw’r cyngor, a’i helpu i wneud penderfyniadau ar ran y gymuned leol.

Gallwch hawlio treuliau weithiau. Yn eu plith mae lwfans mynychu (neu lwfans colled ariannol os ydych yn gyflogedig) a lwfans teithio a chynhaliaeth. Mae’n eithriadol o bwysig cael cymeradwyaeth ymlaen llaw cyn gwario arian a chadw derbynebau i ategu ceisiadau am dreuliau.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yw’r corff annibynnol sy’n llunio adroddiad bob blwyddyn, yn nodi pa daliadau y gellir eu gwneud i gynghorydd. Yn 2017, penderfynodd y Panel y caiff cynghorau cymuned a thref benderfynu gwneud taliadau i’w cynghorwyr, gan gynnwys: Taliad o hyd at £150 y flwyddyn;

  • Taliad o hyd at £500 y flwyddyn i hyd at dri chynghorydd sydd â chyfrifoldebau penodol;
  • Costau teithio a chynhaliaeth ar gyfer cyflawni dyletswyddau cymeradwy o fewn a thu hwnt i ardal y cyngor;
  • Ad-daliad costau gofal ar gyfer dibynyddion, hyd at uchafswm penodol;
  • Ad-daliad costau gofal ar gyfer cymorth personol.

Mater i’r cynghorau tref a chymuned yw gwneud penderfyniad ffurfiol i wneud y taliadau hyn.

2. Y cyngor

Mae eich cyngor yn gorff corfforaethol sydd â’i fodolaeth gyfreithiol ei hun, sy’n gyfan gwbl ar wahân i fodolaeth gyfreithiol ei aelodau. Mae’r corff cyfan yn gyfrifol am ei benderfyniadau. Rhoddwyd pwerau i’r cyngor gan y Senedd neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys yr hawl i godi arian drwy drethiant (y praesept) ac amrywiaeth o bwerau i wario arian cyhoeddus (mwy yn ddiweddarach).

Ceir dros 730 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Rhannodd Deddf Llywodraeth Leol 1972 Gymru gyfan yn ‘gymunedau’. Fodd bynnag, ni chynhwyswyd bwrdeistrefi blaenorol Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Port Talbot, Rhondda ac Abertawe yn y darpariaethau a sefydlodd y cynghorau cymuned. O ganlyniad, nid oes unrhyw gynghorau cymuned na thref mewn rhai ardaloedd trefol yn y De. Mae cynghorau newydd wrthi’n cael eu creu (megis dau yn Rhisga yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili) ac mae Llywodraeth Cymru’n annog cynghorau cymuned a thref i ddod at ei gilydd fel clwstwr fel y gallant ddarparu rhagor o wasanaethau ar gyfer eu cymunedau.

Mae cyngor cymuned nodweddiadol yn cynrychioli tua 1,500 o bobl ond y boblogaeth fwyaf a wasanaethir gan gyngor tref yw’r Barri, sydd â mwy na 50,000 o bobl. Adlewyrchir y gwahaniaethau sylweddol hyn mewn gwariant blynyddol a allai amrywio o lai na £1,000 i dros filiwn o bunnoedd. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod faint y mae eich cyngor yn ei wario bob blwyddyn ac i ble yr aiff yr arian.

Haen etholedig o lywodraeth leol yw eich cyngor. Mae’r haen arall yng Nghymru yn cynnwys cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol. Mae gan gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau megis addysg, cynllunio gwlad a thref, iechyd yr amgylchedd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan gynghorau cymuned a thref bŵer cyfreithiol i weithredu, ond mae ganddynt lai o ddyletswyddau a mwy o ryddid i ddewis pa gamau i’w cymryd. Gallant chwarae rhan hollbwysig wrth gynrychioli buddiannau eu cymunedau a dylanwadu ar eraill sy’n gwneud penderfyniadau. At hynny, gallant gymryd camau i wella ansawdd bywyd ac amgylchedd pobl leol ac mewn rhai achosion, gallant ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol. Mae’n bwysig eich bod chi, fel cynghorydd cymuned a thref, yn gweithio’n agos â’r cynghorwyr sir neu’r cynghorwyr bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli eich ardal, er budd eich cymuned. Gallwch chi a’ch cyngor wneud gwahaniaeth.

Beth mae eich cyngor yn ei wneud?

Cynllunio, priffyrdd, traffig, diogelwch cymunedol, tai, goleuadau stryd, rhandiroedd, mynwentydd, meysydd chwarae, canolfannau cymunedol, sbwriel, cofgolofnau rhyfel, seddau a llochesi, hawliau tramwy – dyma rai o’r materion y mae cynghorau cymuned a thref yn ymwneud â hwy. Mae’r llunwyr polisïau yn annog cynghorau cymuned a thref i ddarparu mwy o wasanaethau a chwarae mwy o ran yn eu cymunedau.

Hefyd, mewn amgylchedd ariannol anodd, bydd cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn awyddus i drosglwyddo asedau cymunedol megis cyfleusterau cyhoeddus a rhandiroedd i gynghorau cymuned. Dylai cynghorau lleol groesawu’r cyfle i ddiogelu asedau o’r fath er mwyn diwallu anghenion penodol eu cymunedau.

Fel enghreifftiau gallai eich cyngor drefnu neu roi cymorth ariannol i’r canlynol:

  • bws gyda’r hwyr i fynd â phobl ifanc i’r dref agosaf;
  • arolwg o anghenion o ran tai;
  • digwyddiadau clirio pyllau;
  • ailaddurno’r ganolfan gymunedol;
  • clwb galw heibio i bobl ifanc yn eu harddegau;
  • adfer bandstand i’w gyflwr gwreiddiol; offer i’r cylch chwarae;
  • cludiant i’r ysbyty.

Wrth gwrs, gallai eich cyngor bob amser benderfynu peidio â gwneud llawer o gwbl; ond yna efallai y byddech chi a’ch etholwyr yn dechrau meddwl pam y dylai’r cyngor cymuned neu dref fodoli o gwbl.

Gall pob un cyngor ymateb yn unigryw i anghenion y gymuned gyda sensitifrwydd sy’n anoddach i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ei gyflawni.

Gweithio fel tîm

Mae gan gynghorwyr ddiddordebau gwahanol ac mae materion gwahanol yn tanio eu brwdfrydedd. Dathlwch hyn. Mae gan gynghorwyr sgiliau ac agweddau gwahanol; er enghraifft, mae rhai yn gweithio gyda syniadau tra bo eraill yn ymarferol iawn; mae rhai yn hoffi cyfrifon ond mae’n well gan eraill adroddiadau. Mae angen amrywiaeth o bobl fedrus i weithio fel tîm ar gyngor cymuned neu dref.

Mae eich cadeirydd yn gweithredu fel arweinydd tîm a chanolwr mewn cyfarfodydd (gweler Rhan Tri). Bydd rhai cynghorau’n penodi arweinydd cyngor ar wahân, ond nid oes statws cyfreithiol i’r swyddogaeth wleidyddol hon. Mae’r clerc yn rhoi cyngor a chymorth gweinyddol, ac yn cymryd camau i weithredu penderfyniadau’r cyngor. Efallai y bydd yn rhaid i’r clerc weithredu fel rheolwr prosiect, cyfarwyddwr personél, swyddog cysylltiadau cyhoeddus neu weinyddwr cyllid. Nid dim ond ysgrifennydd yw’r clerc ac nid yw’n was bach i’r cadeirydd na’r cynghorwyr eraill; dim ond i’r cyngor cyfan y mae’r clerc yn atebol. Y clerc yw swyddog priodol y cyngor yn ôl y gyfraith. Yn gyfreithiol, gall cynghorau gytuno i ddirprwyo penderfyniadau i glercod gan mai swyddogion proffesiynol ydynt y mae eu hannibyniaeth yn caniatáu iddynt weithredu ar ran y cyngor. Yn amlwg, rhaid trin y clerc â pharch.

Bydd gan y cynghorau gorau glerc a chynghorwyr sy’n gweithio fel tîm i wasanaethu’r gymuned.

  1. Eich cymuned

Gwaith eich cyngor yw cynrychioli buddiannau’r gymuned gyfan – a chynrychioli buddiannau gwahanol rannau o’r gymuned i’r un graddau. Ambell waith bydd gwrthdaro buddiannau a fydd yn galw am arfer doethineb; er enghraifft, gallai perchnogion cwˆn, rhieni plant bach a cherddwyr anghytuno ynghylch y defnydd o lain o dir yn y pentref. Mae gwneud penderfyniadau anodd, mewn ffordd agored

a rhesymol, yn rhywbeth y mae angen i gynghorau cymuned a thref ei wneud yn dda.

Mae angen i bobl leol, gan gynnwys y boblogaeth iau, ddeall a gwerthfawrogi rôl y cynghorydd; mae hyn yn golygu y dylai cynghorwyr hyrwyddo eu rôl yn y gymuned leol a dod o hyd i bobl sy’n awyddus i’w holynu yn eu gweithgarwch yn y cyngor. Mae’n syniad da sefydlu cyngor ieuenctid neu bwyllgor o bobl ifanc, i ddangos eich bod yn awyddus i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc. Efallai y gallech hyd yn oed ystyried cyllido cyngor ieuenctid. Mae rhai cynghorau wedi manteisio ar y cynnig yn adrannau 118-121 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ei gwneud yn bosibl i gyngor cymuned benodi hyd at ddau gynrychiolydd ieuenctid (16 i 25 oed) i gymryd rhan yng ngwaith y cyngor er mwyn cynrychioli buddiannau pobl ifanc sy’n byw, yn gweithio neu’n cael eu haddysgu neu eu hyfforddi yn yr ardal.

Fel cynghorydd, rhaid i chi fod yn hyddysg iawn, yn enwedig ynghylch safbwyntiau lleol amrywiol. Ni allwch gymryd yn ganiataol eich bod yn cynrychioli buddiannau eich etholwyr i gyd heb ymgynghori â hwy. Mae canfod anghenion grwpiau gwahanol yn y gymuned (megis pobl ifanc, yr henoed a phobl anabl) yn rhan bwysig o’ch rôl fel cynghorydd.

Mae’r dulliau profedig a nodir isod yn rhai o’r ffyrdd y gall pobl fynegi eu gobeithion a’u dymuniadau ar gyfer y gymuned. Rhoddant gyfleoedd gwerthfawr i bobl leol nodi pethau y mae angen eu gwella neu sy’n werth eu diogelu. Ysgogant drafodaeth gan lywio gwaith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac maent fel arfer yn arwain at weithredu. Gellir eu defnyddio i helpu i feithrin ‘gallu’ cymuned leol a’i galluogi i gyfrannu at fentrau megis

Cynlluniau Llesiant Lleol; mae hyn yn golygu rhoi’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i bobl, fel y gallant gymryd rhan mewn cyfleoedd i ddylanwadu ar yr hyn a wneir yn y gymuned.

  • Holiaduron sy’n rhoi cyfle i drigolion, gan gynnwys plant, fynegi eu safbwyntiau ynghylch ble maent yn byw yw arolygon cymunedol. Cynhaliwyd miloedd lawer o arolygon o’r fath ledled y DU ers y 1970au. Mae’r gyfradd ymateb gan gartrefi yn sylweddol – dros 50% fel arfer – ac mewn cymunedau llai gall gyrraedd 90%.
  • Mae datganiadau dylunio yn cynnwys cymunedau mewn adolygiad o amgylchedd adeiledig a naturiol eu hardal. Gall eich awdurdod cynllunio lleol ddefnyddio’r canlyniadau a gyhoeddir i’w helpu i wneud penderfyniadau cynllunio (gweler Rhan Pedwar).
  • Gall map cymunedol fod yn ymarfer creadigol; er enghraifft, gallai fod yn ddarlun, yn dapestri neu’n fodel o’r gymuned. Mae pobl yn cofnodi nodweddion lleol sydd o bwys iddynt wrth iddynt weithio ar y map.
  • Ymarfer ymgynghori yw Planning for Real®, lle mae pobl yn llunio model syml o’r gymuned (neu ran ohoni) ac yn ei ddefnyddio i ysgogi trafodaeth a phennu blaenoriaethau.
  • Mae cynadleddau cymunedol neu weithdai cymunedol yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddod â phobl ynghyd i siarad am ddyfodol y gymuned.

Yn ogystal â helpu eich cyngor i nodi gwelliannau gwirioneddol, gall y broses o ddefnyddio dulliau fel y rhain atgyfnerthu ymdeimlad pobl o ddiben a pherthyn.

Mae’r broses yr un mor bwysig â’r canlyniad.

Wrth gwrs, dylech ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych eisoes fel sail ar gyfer penderfyniadau ar ran eich cymuned, ond mae’r dulliau hyn yn eich helpu i ddod hyd yn oed yn fwy hyddysg ac yn rhoi mandad cryfach ar gyfer gweithredu. Gall ymgynghori â’r gymuned eich helpu i:

  • siarad ar ran eich cymuned gyda mwy o hyder, yn enwedig mewn trafodaethau

gyda chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol;

  • darparu gwasanaethau a chyfleusterau, yn enwedig os nad oes unrhyw ddarparwr arall neu os gall y cyngor cymuned neu dref sicrhau gwell gwerth am arian;
  • cefnogi camau a gymerir yn y gymuned a gwasanaethau a ddarperir gan eraill; gall y cyngor gynnig adeiladau, arbenigedd staff a chyllid i roi cychwyn da i brosiectau lleol;
  • gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol, cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, y sector busnes a chynghorau cymuned a thref cyfagos, er budd y gymuned. Dylai’r cyngor sir neu fwrdeistref sirol a’r cyngor cymuned neu dref ategu ei gilydd.

I lawer o bobl, y boddhad a ddaw o weithredu ar ran eu cymuned leol sy’n eu hannog i ddod yn gynghorwyr. Yr her nesaf yw sicrhau bod y cyngor yn gweithredu’n briodol i gyflawni’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud. Rhaid iddo fynd ati gan roi gofal a sylw dyladwy i’r gyfraith. Mae Rhan Dau yn cyflwyno’r rheolau sy’n llywio gwaith eich cyngor – ac er nad yw hyn mor atyniadol â gweithredu, mae’n hollbwysig i’w lwyddiant.

Rhan dau: Gofal a sylw dyladwy

4. Y Rheolau

Beth y gallwch chi ei wneud? Beth y mae’n rhaid i chi ei wneud? Beth na ddylech ei wneud? Efallai nad yw’r rheolau yn gyffrous, ond os nad ydych yn eu deall gallai eich cyngor fynd i drafferthion.

  • Rhaid i gyngor wneud yr hyn y mae’n ofynnol iddo ei wneud yn ôl y gyfraith.
  • Dim ond yr hyn y dywed y gyfraith y gall ei wneud y gall cyngor ei wneud.
  • Ni ddylai cyngor wneud unrhyw beth oni fydd ganddo bwˆ er cyfreithiol i weithredu.

Y cwestiwn hollbwysig yw – a oes gan y cyngor bwˆ er cyfreithiol i weithredu? Rhaid i gyngor ofyn y cwestiwn hwn bob amser wrth wneud penderfyniad, yn enwedig os yw’n golygu gwario arian cyhoeddus. Dim ond pan fydd Deddf Seneddol benodol, neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn caniatáu hynny, y gall cyngor cymuned neu dref ymgymryd â gweithgaredd. Er enghraifft, mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, adran 19, yn rhoi’r pwˆ er i awdurdodau lleol (gan gynnwys cynghorau cymuned a thref) wario arian ar hamdden. Mae Rhan Pump yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o weithgareddau a phwerau cyfreithiol penodol.

Os yw’r cyngor yn gweithredu heb bwˆ er cyfreithiol (hyd yn oed os byddai’n boblogaidd gyda’r gymuned), neu os yw’n defnyddio’r pwˆ er anghywir i weithredu, yna gellid cyhuddo’r cyngor o weithredu y tu hwnt i’w bwerau (ultra vires yw’r term cyfreithiol). Mae cael eich dal yn ‘ddi-rym’ yn brofiad anghysurus ac yn risg ddiangen. Y newyddion da yw bod llawer o ffynonellau o gyngor. Dechreuwch drwy ofyn i’ch clerc, gan fod ei swydd yn cynnwys rhoi cyngor ar y gyfraith i’r cyngor cymuned neu dref. Dylai eich clerc allu cael cyngor arbenigol ar faterion cyfreithiol mwy cymhleth gan Un Llais Cymru (os yw eich Cyngor yn aelod) a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.

Prin yw’r gweithgareddau na all cyngor cymuned ymgymryd â hwy; y gamp yw sicrhau bod pwˆ er cyfreithiol ar gyfer pob cam a gymerir gan y cyngor. Os na all y cyngor ddod o hyd i bŵer penodol, yna mae adran 137 (Deddf Llywodraeth Leol 1972) yn ddefnyddiol iawn. Rhydd bŵer i’r cyngor cymuned wneud unrhyw beth y bydd y gymuned (neu ran ohoni) yn elwa ohono os nad oes unrhyw bŵer penodol arall ar gyfer y cam a gymerir. Os bydd statud arall yn atal cyngor rhag gwario arian neu’n cyfyngu ar y swm y gellir ei wario, yna ni ellir defnyddio adran 137 i ddirymu hynny. O dan adran 137, gall eich cyngor wario hyd at ffigur penodol y flwyddyn fesul etholwr (£7.57 fydd hyn yn 2017/18, gan godi bob blwyddyn yn unol â chwyddiant) ar unrhyw beth sydd, yn ei farn ef, yn fuddiol os (a dim ond os) na ellir defnyddio unrhyw bwˆ er arall. Rhaid i’r gwariant o dan y pwˆ er hwn fod yn gymesur â’r budd i’r gymuned; mae hyn yn golygu bod yn rhaid i lefel yr arian a werir gyfateb i raddfa’r budd i bobl leol.

Rhoddodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 bwˆ er llesiant i gynghorau cymuned gan ganiatáu i gyngor wneud unrhyw beth sy’n debygol o hybu neu wella lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ei ardal, yn ei dyb ef. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y pŵer hwn yn caniatáu ystod eang o weithgareddau ac yn cynnig cwmpas sylweddol ar gyfer gweithredu (er nad yw’n cynnwys masnachu) i gyngor cymuned neu dref. Mae gwariant o dan y pŵer hwn yn cyfrif tuag at derfyn blynyddol a137 y cyngor, fodd bynnag. Ceir canllawiau pellach ynghylch sut i ddefnyddio’r pŵer hwn gan Lywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.

Felly beth y mae’n rhaid i chi ei wneud fel cyngor?

Mae’r gyfraith yn rhoi llawer o ddewis i gynghorau cymuned a thref o ran y gweithgareddau y gallant ymgymryd â hwy; ond, prin yw’r dyletswyddau, sef gweithgareddau y mae’n rhaid iddynt eu cyflawni i ddarparu gwasanaethau i bobl leol. Ymhlith yr enghreifftiau o ddyletswyddau yw bod rhaid i gyngor:

  • os yw ei gyllideb yn £200,000 neu’n fwy, gymryd camau rhesymol tuag at gyflawni’r amcanion yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn ei ardal a chyhoeddi adroddiad blynyddol i ddangos ei gynnydd o ran cyflawni’r amcanion hyn;
  • darparu rhandiroedd os yw’r cyngor o’r farn fod galw amdanynt gan drigolion lleol a’i bod yn rhesymol gwneud hynny;
  • cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan

Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a

Deddf Diogelu Data 1998;

  • cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth;
  • ystyried effaith ei benderfyniadau ar leihau trosedd ac anrhefn yn yr ardal;
  • ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau.

Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac egwyddor llywodraeth agored, rhaid i bob cyngor cymuned neu dref gael cynllun cyhoeddi. Mae hwn yn dangos pa wybodaeth sydd ar gael a sut y gall y cyhoedd ei gweld. Mae asesiad o risg yn un o’r dogfennau ariannol y mae’r cynllun enghreifftiol yn rhoi sylw iddynt. Mae hyn yn golygu bod rhwymedigaeth ar bob cyngor i ddangos ei fod wedi nodi a rheoli’r risgiau i arian cyhoeddus sy’n deillio o’u gwaith. Rhaid i gyngor cymuned hefyd gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae dyletswydd ar y cyngor cymuned hefyd i sicrhau bod yr holl reolau ar gyfer gweinyddu’r cyngor yn cael eu dilyn. Rhaid i’r cyngor:

  • benodi cadeirydd i’r cyngor;
  • penodi swyddogion i gyflawni ei swyddogaethau, fel y bo’n briodol;
  • penodi swyddog ariannol cyfrifol i reoli materion ariannol y cyngor; y clerc fydd y swyddog ariannol cyfrifol yn aml, yn enwedig mewn cynghorau llai;
  • penodi archwilydd mewnol annibynnol a chymwys (gweler isod);
  • cadw cofnodion o’r holl benderfyniadau sy’n ymwneud â busnes y cyngor

(y cofnodion);

  • cynnal Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor ym mis Mai neu’n fuan wedi etholiadau’r cynghorau lleol.

Nodir y rheolau hyn yn y gyfraith i reoli gweithdrefnau’r cyngor, a gall eich cyngor ychwanegu ei reoliadau ei hun. Gyda’i gilydd gall y rheolau hyn ffurfio’r rheolau sefydlog y cytunwyd arnynt yn ffurfiol gan eich cyngor (gweler Rhan Tri). Os gwelwch nad oes gan eich cyngor ei reolau sefydlog (anariannol) ei hun, nid yw hyn yn anghyfreithlon ond mae’n annoeth, ac mae dyletswyddau a nodir yn y statud, megis penodi cadeirydd a swyddog priodol (y clerc fel arfer), yn dal i fod yn gymwys. Mae Un Llais Cymru (gweler Rhan Pump) yn darparu rheolau sefydlog enghreifftiol. Rhaid i’ch cyngor fod â rheolau sefydlog sy’n ymdrin â chontractau i gyflenwi nwyddau a deunyddiau neu gyflawni gwaith (a.135 Deddf Llywodraeth Leol 1972).

Rhaid i gyfarfodydd y cyngor fod yn agored i’r cyhoedd, ac mae deddfwriaeth anabledd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor wneud ei gyfarfodydd yn hygyrch i unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol. Yn yr un modd mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor sicrhau bod dogfennau ar gael i’r cyhoedd yn ysbryd llywodraeth agored. Mae cynllun cyhoeddi enghreifftiol ar gael gan y Comisynydd Gwybodaeth. Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor cymuned a thref sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael ar ffurf electronig. Mae’r canllawiau statudol ar hyn i’w cael yn Mynediad i Wybodaeth am Gynghorau Cymuned a Thref.

Os ydych yn dechrau meddwl bod gormod o reolau, yna cofiwch eu bod yn diogelu hawliau pobl (gan gynnwys eich hawliau chi) ac yn rhoi hyder bod y sefydliad yn cael ei redeg yn briodol.

Y Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru. Mae’n gosod yr egwyddorion cyffredinol na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ac y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’n un o nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflawni ei hymrwymiad i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Mesur 2011 yn creu swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg. Nod y Comisiynydd yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’r Mesur a rheoliadau cysylltiedig yn gosod safonau sy’n nodi pa bryd a sut y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ddefnyddio’r Gymraeg. Er enghraifft, wrth ddelio gyda’r cyhoedd, darparu gwasanaethau, gwneud penderfyniadau ynghylch polisïau, recriwtio staff, delio â chyflogeion a chadw cofnodion. Swyddogaeth y Comisiynydd yw gosod a

gorfodi’r rheoliadau, ond ceir hawl i apelio. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau ar gyfer cynghorau cymuned hyd yma, a bydd y cynlluniau iaith Gymraeg yn parhau mewn grym nes bydd y rheoliadau wedi’u gwneud.

Disgwylir i’ch cyngor drin y Gymraeg yn rhesymol ac yn gymesur wrth ddelio â’r cyhoedd. Gall hyn effeithio ar gyfarfodydd, gohebiaeth, galwadau ffôn, arwyddion lleol, dogfennau a gyhoeddir, polisïau rhoi grantiau, tendrau, contractau, hysbysiadau a gwefannau. Efallai y byddai’n werth dod i wybod beth yw safonau eich cyngor sir neu’ch cyngor bwrdeistref sirol. Os oes gan eich cyngor ran i’w chwarae er mwyn cyflawni’r amcanion yn y cynllun llesiant lleol, efallai y bydd am ystyried sut i helpu i gyflawni ‘diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

5. Rheolau i Gynghorwyr

Hyd yn oed os ydych yn gymwys i sefyll fel cynghorydd ac os cafodd yr etholiadau eu cynnal yn briodol, ni allwch weithredu fel cynghorydd nes eich bod wedi llofnodi datganiad derbyn swydd ffurfiol. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i lynu wrth y cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan eich cyngor (gweler isod).

Mae dyletswydd arnoch i weithredu’n briodol fel cynghorydd. Yn arbennig, mae gennych gyfrifoldeb i:

  • fynychu cyfarfodydd y cyngor cymuned neu dref pan gewch wyˆs i wneud hynny; yn ôl y gyfraith mae’r hysbysiad i fynychu cyfarfod y cyngor yn wyˆs, oherwydd mae dyletswydd arnoch i fod yn bresennol;
  • paratoi ar gyfer cyfarfodydd drwy astudio’r agenda ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig, i sicrhau bod gennych yr wybodaeth briodol am y materion sydd i’w trafod, gan geisio cyngor lle y bo’n briodol;
  • cymryd rhan mewn cyfarfodydd a llunio barn wrthrychol yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’r gymuned – a chadw wedyn at benderfyniadau’r mwyafrif;
  • sicrhau, gyda chynghorwyr eraill, fod y cyngor yn cael ei reoli’n briodol;
  • gweithredu ar ran yr etholaeth gyfan i’r un graddau, ac nid y rhai a gefnogodd eich ymgyrch etholiadol yn unig; yn yr un modd, ymddiddori ym mhob mater i’r un graddau ac nid dim ond y materion lleol hynny y gwnaethoch ymgyrchu drostynt; gwrando, ac wedyn gynrychioli barn y gymuned wrth drafod busnes y cyngor a gweithio gyda chyrff allanol;
  • ymddwyn yn briodol fel cynrychiolydd etholedig y bobl.

Y cod ymddygiad

Mae’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan eich cyngor yn ddogfen gyfreithiol sy’n rhoi arweiniad i chi, er mwyn sicrhau eich bod yn ymddwyn yn briodol fel cynghorydd. Pan lofnodwch eich ‘datganiad derbyn swydd’ rydych hefyd yn cytuno i gadw at y cod. Mae’r cod yn seiliedig ar yr egwyddorion pwysig hyn a bennwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • anhunanoldeb;
  • gonestrwydd;
  • uniondeb a phriodoldeb;
  • dyletswydd i gynnal y gyfraith;
  • stiwardiaeth;
  • gwrthrychedd wrth wneud penderfyniadau;
  • cydraddoldeb a pharch;
  • natur agored; atebolrwydd;

Hanfod y cod yw eich bod yn cytuno i weithredu’n agored ac yn anrhydeddus er budd y cyhoedd. Ni ddylech fyth ddefnyddio eich swydd yn amhriodol i sicrhau mantais bersonol neu i osgoi rhoi eich hun, neu unrhyw un arall, o dan anfantais. Ni ddylech fyth ddwyn anfri arnoch chi eich hun, fel aelod o’r cyngor, nac ar y cyngor ei hun. Mae’r cod hefyd yn eich atgoffa y dylech:

  • roi ystyriaeth ddyladwy i egwyddor cydraddoldeb;
  • dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill;
  • peidio ag ymddwyn fel bwli nac aflonyddu ar unrhyw un arall;
  • peidio â pheryglu didueddrwydd staff eich cyngor;
  • peidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol;
  • peidio ag atal mynediad at wybodaeth y mae gan rywun hawl cyfreithlon iddi;
  • peidio â dwyn anfri ar eich swydd na’ch awdurdod;
  • hysbysu ynghylch ymddygiad troseddol posibl gan aelod arall;
  • hysbysu’r Swyddog Monitro yn y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ynghylch achosion posibl o’r cod yn cael ei dorri gan aelod arall; sylwch fod Un Llais Cymru yn cyhoeddi model enghreifftiol i helpu i ddatrys problemau sy’n codi;
  • peidio â gwneud cwynion blinderus, maleisus na disylwedd yn erbyn aelodau eraill eich cyngor na gweithwyr eich cyngor;
  • cydweithredu mewn ymchwiliadau;
  • peidio â defnyddio eich swydd yn amhriodol i sicrhau mantais nac anfantais bersonol i unrhyw un;
  • peidio â defnyddio adnoddau’r cyngor yn amhriodol, gan gynnwys at ddibenion gwleidyddol neu breifat;
  • gwneud penderfyniadau yn unol â rhinweddau’r achos ac er budd

y cyhoedd, gan roi sylw i gyngor swyddogion;

  • ufuddhau i’r rheolau yn ymwneud â lwfansau a chostau;
  • osgoi derbyn rhoddion, lletygarwch, manteision a gwasanaethau answyddogol eraill.

Fel cynghorydd, rhaid i chi ddatgan buddiant personol cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol y gallech chi (neu bobl sy’n gysylltiedig â chi) elwa, yn fwy na’r rhan fwyaf o bobl eraill yn y gymuned, ar ganlyniad y mater dan sylw. Rhaid i’r cyngor gael ei weld yn gwneud penderfyniadau yn deg ac yn agored, heb fod wedi niweidio’r mater. Os gallai fod yn rhesymol i aelod o’r cyhoedd feddwl y bydd eich buddiant personol yn dylanwadu ar eich barn ar fater neu’n ei niweidio, yna rhaid i chi ddatgan buddiant sy’n rhagfarnu. Mae hyn yn berthnasol pa un a yw’n gyfarfod o gyngor, o bwyllgor neu o is-bwyllgor, neu’n gyfarfod arall y mae aelodau neu swyddogion yr awdurdod yn bresennol ynddo. Mae’n helpu os yw’r agenda yn rhoi cyfle i gynghorwyr ddatgan buddiant yn gynnar mewn cyfarfod. Mae’n rhaid i chi hefyd ddatgan buddiant ar unrhyw bwynt yn ystod cyfarfod os byddwch yn dod yn ymwybodol o fuddiant nad oeddech wedi ei ragweld.

Ym mhob achos bron, os oes gennych fuddiant sy’n rhagfarnu rhaid i chi dynnu’n ôl o’r drafodaeth ar y mater sy’n gysylltiedig â’r buddiant hwnnw, oni roddir goddefeb i chi gan Bwyllgor Safonau’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol. Mae’r cod yn egluro rhai achosion pan nad yw buddiant personol yn un sy’n rhagfarnu, er enghraifft, os yw’r mater yn ymwneud ag:

  • awdurdod perthnasol arall yr ydych yn aelod ohono;
  • awdurdod neu gorff cyhoeddus arall lle mae gennych swyddogaeth rheoli cyffredinol;
  • corff y cawsoch eich ethol, eich penodi neu eich enwebu arno gan eich cyngor.

Mae buddiannau personol yn cynnwys eich cyflogaeth, tirddaliadau yn y gymuned a wasanaethwch, buddiannau teuluol a busnes, a’ch aelodaeth a’ch swyddi rheoli (megis trysorydd) mewn sefydliadau eraill.

Rhaid cofrestru buddiannau personol a ddatgelir mewn cyfarfodydd am y tro cyntaf gyda chlerc y cyngor; felly mae’n helpu (ond nid yw’n orfodol) os ydych yn llenwi eich cofrestr buddiannau ar ddechrau eich tymor fel cynghorydd. Rhaid sicrhau bod y gofrestr buddiannau’n gyfredol a dylid ei chyhoeddi  ar-lein. Rhaid i roddion a lletygarwch a dderbynnir yn rhinwedd eich swydd fel cynghorydd gael eu cofrestru hefyd.

Gall Swyddogion Monitro roi cyngor ar gais ond chi sy’n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â’r cod, ac yn arbennig am benderfynu a ddylech ddatgan buddiant ai peidio. Wrth benderfynu a oes gennych fuddiant personol, rhaid i chi ystyried unrhyw gyngor gan y Pwyllgor Safonau perthnasol. Rhaid ichi ddarllen cod ymddygiad eich cyngor yn ofalus, gan mai dim ond crynodeb a geir yma.

Os oes gennych le rhesymol i gredu bod cynghorydd arall wedi methu â chydymffurfio â’r cod ymddygiad, mae dyletswydd arnoch i hysbysu Swyddog Monitro’r awdurdod lleol perthnasol am hyn. Bydd y Swyddog Monitro’n eich cynghori a ddylid hysbysu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am yr achos posibl o ddiffyg cydymffurfio. Beth bynnag fo barn y Swyddog Monitro, gall cynghorydd hysbysu’r Ombwdsmon am ddiffyg cydymffurfio posibl, ond bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl ichi gyflwyno tystiolaeth o’r diffyg cydymffurfio. Yna bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu a ddylid ymchwilio i hyn ai peidio. Byddwch yn gweithredu’n groes i’r cod ymddygiad os byddwch yn gwneud cwyn blinderus, maleisus neu ddisylwedd.

Mae’n hanfodol eich bod yn darllen y canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i’ch helpu i ddeall eich rhwymedigaethau o dan y cod (gweler Pennod 18).

Cofiwch, mae’r cod yn diogelu eich etholwyr, eich cyngor a chi fel cynghorydd.

6. Rheolau i Gyflogwyr

Mae rheolau hefyd yn diogelu cyflogeion eich cyngor a’ch cyngor fel cyflogwr. Mae hwn yn gryn gyfrifoldeb; gall camddealltwriaeth godi weithiau rhwng cyngor a’i gyflogeion. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor weithredu fel cyflogwr cyfrifol bob amser.

Cofiwch, cyflogir y clerc gan y cyngor ac mae’n atebol i’r cyngor cyfan. Mae hyn yn golygu na all cynghorwyr unigol gyfarwyddo’r clerc. Mae pob aelod arall o staff, er y cânt eu cyflogi gan y cyngor, yn uniongyrchol atebol i’r clerc fel arfer, sef eu rheolwr a’r un sy’n gyfrifol am yr hyn a gyflawnant. Dylai’r egwyddorion hyn adeiladu ar barch ac ystyriaeth rhwng y cyflogai a’r cyflogwr a dealltwriaeth briodol o’r rolau gwahanol (gweler Rhan Un).

Mae’n hollbwysig fod y cyngor yn sicrhau bod gan bob aelod o staff gontract cyflogaeth sy’n cynnwys telerau ac amodau, yn ogystal â pholisïau cyflogaeth i’w ategu. Dylid talu clercod (o ran isafswm) yn ôl yr argymhellion y cytunwyd arnynt gan Gymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Ond sylwer, pan fydd cynghorwyr yn gweithredu fel clercod ambell waith, ni ellir eu talu.

Mae cyflogeion y cyngor yn cael eu diogelu’n llwyr gan y gyfraith pa un a ydynt yn weithwyr amser llawn neu ran amser. Mae cyfraith cyflogaeth yn eu diogelu o ran hawliau pensiwn, gwyliau blynyddol, absenoldeb a thâl salwch, er enghraifft. Mae’n eu diogelu rhag bwlio neu achosion o aflonyddu a gwahaniaethu. Mae gweithdrefn gwyno gytûn yn sicrhau bod problemau’n cael eu trin yn briodol os byddant yn codi. Mae cyfraith Iechyd a Diogelwch hefyd yn diogelu cyflogeion (a chynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd); dylai eich clerc allu cynghori ar faterion o’r fath. Am fanylion pellach ar swyddogaeth y cyngor fel cyflogwr, gweler Being a Good Employer (manylion yn Rhan Pump).

Mae cyfraith cyflogaeth yn faes cymhleth ac mae angen i gynghorwyr sicrhau eu bod yn deall eu prif gyfrifoldebau fel cyflogwr yn iawn. Mae gan Un Llais Cymru fodiwl hyfforddi ar ‘Y Cyngor fel Cyflogwr’ sy’n rhoi cyfle i gynghorwyr ddod yn gyfarwydd â’r swyddogaeth hon. Gall y gosb am beidio â chydymffurfio â’r gyfraith cyflogaeth fod yn sylweddol, yn arbennig o ran lefel y dyfarniadau y gall Tribiwnlysoedd Cyflogaeth eu gwneud mewn achosion pan fo cyngor wedi methu â chyflawni ei gyfrifoldebau. Gall Un Llais Cymru gynnig gwasanaeth ymgynghori i gynghorau y gall fod arnynt angen cymorth penodol i ddelio â phroblemau cyflogaeth.

7.  Rheolau ar gyfer Ymdrin ag Arian Cyhoeddus

Mae’n hanfodol fod y cyngor yn cael ei weld yn darparu gwerth am arian a’i fod yn chwilio’n gyson am ffyrdd o wella ei berfformiad o ran gweithredu’n ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae’r rheolau ariannol ac amrywiaeth o statudau a gweithdrefnau yn amddiffyn y cyngor. Yn bwysicaf oll, mae’r rheolau yn rhoi’r offer angenrheidiol i’ch cyngor allu cyflawni ei amcanion a gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

Gall bod yn gyfrifol am arian corff cyhoeddus godi ofn ar rywun. Cynlluniwyd y rheolau a grëwyd gan y Llywodraeth i sicrhau nad yw’r cyngor yn cymryd unrhyw risgiau annerbyniol gydag arian cyhoeddus (gweler Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014). Dylai’r geiriau rheoli risg gael eu hargraffu ar galon pob cynghorydd. Y newyddion da yw bod y rheolau yn eich diogelu chi a’ch cyngor rhag unrhyw drychineb posibl. Dylai eich cyngor sefydlu cynllun rheoli risg sy’n amlygu pob risg sylweddol o ran gweithgareddau’r cyngor ac sy’n egluro sut y caiff risgiau o’r fath eu rheoli. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn yswiriant priodol i ddiogelu cyflogeion, adeiladau, arian parod ac aelodau’r cyhoedd.

Dylai eich cyngor sicrhau bod y polisi yn cynnwys costau cyfreithiol. Cofiwch fod yn rhaid archwilio meysydd chwarae a chyfleusterau chwaraeon yn rheolaidd, a chofnodi’r archwiliadau hynny’n briodol. Nid oes a wnelo hyn ag arian yn unig,  mae a wnelo â gofalu am bobl.

Fel cynghorydd, rydych yn rhannu cyfrifoldeb dros reolaeth ariannol y cyngor, ond gweinyddir y cyllid gan swyddog a elwir, yn ôl y gyfraith, yn swyddog ariannol cyfrifol. Eich rôl yw sicrhau bod y swyddog ariannol cyfrifol yn gweithredu’n briodol a bod y cyngor yn osgoi’r risg o dwyll, drwgddyledion neu ddiofalwch. Mae’n bosibl y gofynnir ichi lofnodi sieciau i wneud taliadau ar ran y cyngor. Felly, os gofynnir i chi lofnodi siec, rhaid i chi sicrhau bod y cais yn un cywir a pheidiwch byth â llofnodi siec wag. Mae rhagor o ffyrdd o dalu ar gael i gynghorau lleol erbyn hyn, gan gynnwys taliadau electronig megis trosglwyddiad BACS. Mae’n bosibl y gofynnir i chi ac aelod arall gydlofnodi taflen awdurdodi BACS yn lle gorfod llofnodi sieciau.

Rhaid i’ch cyngor gael ei reoliadau ariannol ei hun (yn debyg i reolau sefydlog) yn disgrifio sut y mae’r cyngor yn rheoli ei gyllid. Mae rheoliadau ariannol enghreifftiol ar gael gan Un Llais Cymru. Os nad yw eich cyngor wedi mabwysiadu rheoliadau ariannol yna gallai greu trafferthion a rhaid i’ch cyngor weithredu fel mater o frys.

Felly rhaid bod gan y cyngor system o reolaeth fewnol sy’n golygu bod rhywun (heblaw’r swyddog ariannol cyfrifol) yn cadw llygad ar y trefniadau ar gyfer rheolaeth ariannol ac yn gwirio dogfennau ariannol a ddewisir ar hap. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer derbyn arian, gwneud taliadau a chofnodi trafodiadau ariannol. Fel arfer, bydd y dasg hon yn cael ei chyflawni gan gynghorwyr sydd â dealltwriaeth dda o ddogfennau ariannol. Dylai lefel y rheolaeth fewnol fod yn briodol i wariant a gweithgarwch eich cyngor; bydd angen i wiriadau cynghorau sy’n darparu

ystod ehangach o wasanaethau fod yn fwy cynhwysfawr na rhai cynghorau llai prysur.  Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i’r cyngor, ac ynghyd ag adborth rheolaidd ar y cyfrifon gan y swyddog ariannol cyfrifol, bydd pob cynghorydd yn ymwybodol o sefyllfa ariannol y cyngor. Mae hyn yn sicrhau bod popeth yn agored ac yn deg a bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Cofiwch – mae pob cynghorydd yn gyfrifol am gyllid y cyngor.

Mae’r gyllideb yn ddull hanfodol o reoli cyllid y cyngor (Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a50). Mae’n dangos bod gan eich cyngor ddigon o incwm i gynnal ei weithgareddau a’i bolisïau. Rhaid i’r gyllideb gael ei pharatoi ymlaen llaw, gan ei bod yn cael ei defnyddio i bennu’r praesept ar gyfer y flwyddyn. Drwy wirio gwariant yn erbyn cynlluniau’r gyllideb yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y cyngor, mae’r cyngor yn rheoli ei gyllid ac yn monitro’r cynnydd a wneir tuag at yr hyn y mae am ei gyflawni.

Rhaid i’r cyngor fabwysiadu gweithdrefnau caffael tryloyw. Dyma’r broses y mae’r cyngor yn ei dilyn wrth brynu gwasanaethau a nwyddau. Mae’n golygu bod yn rhaid i’r cyngor gael tendrau fel y bo’n briodol (bydd y clerc yn cynghori) a’i fod yn trin y tendrau hynny’n hollol deg. Mae hefyd yn golygu sefydlu contractau priodol gyda darparwyr gwasanaethau neu nwyddau. Rhaid i’r cyngor, yn ôl y gyfraith, gael rheol sefydlog sy’n nodi’r broses ar gyfer pennu contractau.

Archwiliadau Mewnol ac Allanol

Er nad yw’n ofyniad, dylai’r archwilydd mewnol fod yn berson annibynnol a chymwys a benodwyd gan y cyngor i gynnal gwiriadau ar ei system reolaeth. Mae’n hanfodol bod gennych lythyr ffurfiol yn cadarnhau’r trefniant gyda’r archwilydd mewnol. Ni all yr archwilydd

mewnol annibynnol ymwneud ag unrhyw

agwedd arall ar fusnes y cyngor ac ni all, felly, fod yn gwasanaethu fel aelod o’r cyngor. Gallai clerc arall neu gyfrifydd fod yn addas (ond ni chaniateir trefniadau cyfatebol rhwng cynghorau). Bydd yr archwilydd mewnol yn cynnal profion sy’n canolbwyntio ar feysydd sy’n risg i arian cyhoeddus, yn cyflwyno adroddiadau i’r cyngor ac, o bosibl, yn paratoi adroddiad ar y ffurflen flynyddol i gadarnhau bod gan y cyngor system reolaeth a’i fod yn ei gweithredu. Mae ‘Governance and Accountability for Local Councils in Wales: A Practitioner’s Guide 2011’ a gyhoeddwyd gan Un Llais Cymru a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yn nodi dull effeithiol o gynnal archwiliad mewnol.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gynghorau gyflwyno eu cyfrifon blynyddol i’r Archwilydd Cyffredinol. Mae cyfrifon y mwyafrif o gynghorau ar ffurf ffurflen flynyddol. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn gwneud trefniadau i’r archwiliad gael ei gynnal gan archwilwyr o Swyddfa Archwilio Cymru neu o gwmnïau dan gontract iddi (sef archwilwyr allanol). Diben yr archwiliad allanol yw gwirio bod datganiadau cyfrifo wedi cael eu paratoi’n briodol a bod y cyngor wedi cydymffurfio â’i gyfrifoldebau statudol o ran rheolaeth ariannol. Bob blwyddyn, bydd archwilwyr allanol hefyd yn gofyn i gael archwilio tystiolaeth sy’n gysylltiedig â thema benodol, megis monitro’r gyllideb neu benodi archwilydd mewnol.

Y ffurflen flynyddol yw’r prif ddull o sicrhau bod y cyngor yn atebol i’w etholwyr ac mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gynghorau lenwi ffurflen flynyddol i gadarnhau bod popeth mewn trefn. Bydd datganiadau wedi’u llofnodi yn cadarnhau’r cyfrifoldeb am drefniadau llywodraethu yn ystod y flwyddyn. Yn benodol, maent yn dangos bod:

  • y cyfrifon wedi’u paratoi a’u cymeradwyo’n briodol;
  • system reolaeth fewnol yn ei lle – gan gynnwys penodi archwilydd mewnol cymwys ac annibynnol – a bod effeithiolrwydd y system a’r penodiad wedi’u hadolygu;
  • y cyngor wedi cymryd camau rhesymol i gydymffurfio â’r gyfraith;
  • y cyngor wedi asesu pob risg bosibl i arian cyhoeddus;
  • y cyfrifon wedi’u cyhoeddi i’w harolygu yn gyffredinol er mwyn i hawliau etholwyr gael eu hymarfer;
  • nad oes unrhyw faterion cudd neu niweidiol posibl ar ddod, fel hawliad yn erbyn y cyngor;
  • gwahaniaethau sylweddol yn y ffigurau (rhwng y flwyddyn gyfredol a’r flwyddyn flaenorol) wedi’u hegluro.

Fel aelod o’r cyngor, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y ffurflen flynyddol yn adlewyrchu rheolaeth ariannol y cyngor yn gywir. Bydd eich clerc yn eich cynghori.

Os ydych chi a’ch cyd-gynghorwyr wedi gweithredu’n briodol yn y cyfnod cyn yr archwiliad allanol yna cewch dystysgrif a barn ddiamod yr Archwilydd Cyffredinol. Mae hynny’n golygu nad yw’r archwilydd wedi gweld dim yn y dogfennau sy’n achosi pryder nad yw’r cyngor wedi llwyddo i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol.

Rhan tri: Cychwyn Arni

8. Cyfarfodydd

Mae cynghorau yn cynnal eu busnes drwy gyfarfodydd. Dyma ble y chwaraewch eich rhan fel un sy’n gwneud penderfyniadau. Y cadeirydd sydd wrth y llyw, ac mae’r clerc (neu ddirprwy efallai) yn cynorthwyo’r cyngor wrth iddo drafod busnes. Tîm y cyngor ar waith yw’r cyfarfod.

Mae cyfarfodydd y cyngor yn ddigwyddiadau ffurfiol, nid achlysuron cymdeithasol. Mae iddynt ddiben eglur – gwneud penderfyniadau yn dilyn trafodaeth briodol a phenodol. At hynny, maent yn ddigwyddiadau cyhoeddus; mae gan y wasg a’r cyhoedd hawl i weld sut y mae’r cyngor yn gweithredu. Ceir eithriadau pan fydd materion sensitif i’w trafod (megis materion cyfreithiol, cytundebol neu bersonél) ac yna gall y cyngor gytuno i wahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer yr eitemau hynny yn unig.

Anogir cyfranogiad y cyhoedd. Nid yw hyn yn golygu bod aelodau’r cyhoedd yn cymryd rhan yn y drafodaeth, ond mae’n arfer da annog aelodau o’r cyhoedd i fynegi eu barn neu ofyn cwestiynau ar adeg a neilltuwyd yn benodol (eitem ar yr agenda) yn ystod y cyfarfod. Dylai rheolau sefydlog y cyngor (gweler isod) nodi’r ffordd y gall y cyhoedd gymryd rhan.

Fel arfer mae’r cyngor yn gwneud ei benderfyniadau yng nghyfarfodydd y cyngor, ei bwyllgorau a’i isbwyllgorau. Rhaid hysbysebu holl gyfarfodydd y cyngor a’i bwyllgorau (ac is-bwyllgorau, i ddilyn arfer da) a rhaid iddynt fod yn agored i’r wasg a’r cyhoedd. Dylai’r cyngor benderfynu ar amserlen y cyfarfodydd am y flwyddyn.

  • Cyfarfodydd o’r cyngor llawn yw cyfarfodydd y cyngor. Dylai pob cynghorydd fod yn bresennol.
  • Daw cyfarfodydd y pwyllgorau â nifer lai o gynghorwyr at ei gilydd i ganolbwyntio ar un o swyddogaethau penodol y cyngor a rhannu’r llwyth gwaith.
  • Mae rhai pwyllgorau yn bwyllgorau parhaol neu sefydlog, ond sefydlir eraill ar gyfer prosiectau tymor byr. Mae gan lawer o gynghorau Bwyllgor Cynllunio parhaol sy’n caniatáu iddynt roi eu sylwadau ar geisiadau cynllunio unwaith bob pythefnos heb gynnal cyfarfod llawn o’r cyngor.
  • Mae rhai pwyllgorau yn cynghori; gwnânt argymhellion i’r cyngor llawn, sydd wedyn yn gwneud y penderfyniadau. Ceir pwyllgorau gweithredol hefyd lle mae’r cyngor llawn yn dirprwyo (neu’n trosglwyddo) y pwˆ er i wneud rhai penderfyniadau i’r pwyllgor. Yna mae’r pwyllgor yn cyflwyno ei benderfyniadau i’r cyngor llawn. Mae hyn yn helpu’r Pwyllgor Cynllunio i wneud penderfyniadau heb gyfeirio at y cyngor llawn.
  • Penodir is-bwyllgorau gan bwyllgor i drafod pwnc penodol ymhlith grŵp hyd yn oed yn llai o gynghorwyr. Fel arall, gweithredant fel pwyllgorau.
  • Ambell waith, sefydlir gweithgorau neu ‘grwpiau gorchwyl a gorffen’ at ddiben tymor byr. Nid ydynt yn ddarostyngedig i’r rheolau caeth sy’n gymwys i gyfarfodydd ffurfiol y cyngor, ac nid oes angen eu cynnal yn gyhoeddus, ond ni ddylid eu defnyddio i osgoi rhoi mynediad i’r cyhoedd i gyfarfodydd. Ni all gweithgor wneud penderfyniad ar ran y cyngor.
  • Mae rheolau ynghylch pwy sy’n gallu ymuno â phwyllgor neu is-bwyllgor. Weithiau gellir cynnwys rhai nad ydynt yn gynghorwyr (er na allant bleidleisio, heblaw am ambell i eithriad). Mae hon yn ffordd wych o gynnwys eraill, yn arbennig pobl ifanc, yng ngwaith y cyngor.

Cyfarfodydd blynyddol

Os cewch eich ethol ym mis Mai, Cyfarfod

Blynyddol y Cyngor fydd eich cyfarfod cyntaf.

Dyma pryd y byddwch yn ethol cadeirydd ac isgadeirydd mae’n siwˆ r, ynghyd â phenodi aelodau’r pwyllgorau a chynrychiolwyr ar gyrff eraill. Mae’n helpu i feddwl am hwn fel y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac i gofio mai cyfarfod o’r cyngor ydyw.

Yn wahanol i Loegr, nid oes gofyniad i gynnal Cyfarfod Cymuned neu Gyfarfod Tref Blynyddol ond gellir galw cyfarfod cymuned neu dref ar unrhyw adeg. Nid yw hwn yn gyfarfod o’r cyngor. Cyfarfod o etholwyr y gymuned neu’r dref ydyw, a gaiff ei alw i drafod materion y gymuned neu’r dref. Gall cadeirydd y cyngor cymuned neu dref, neu ddau gynghorydd arall, neu 10% o’r etholwyr neu 50 etholwr o’r gymuned – p’run bynnag yw’r lleiaf, alw’r cyfarfod. Mae cyfarfod cymuned neu dref yn gyfle da i ymgynghori â’ch etholwyr ar beth yr hoffent i chi ei wneud a rhaglen waith eich cyngor am y flwyddyn.

Rheolau sefydlog

Mae’r rheolau ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a’r holl gyfarfodydd eraill wedi’u cynnwys yn rheolau sefydlog y cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys rheolau gweithdrefn a bennwyd yn y gyfraith a rheoliadau ychwanegol a ddewiswyd gan eich cyngor. Mae rheolau sefydlog yn helpu’r cyngor i weithredu’n ddidrafferth. Er enghraifft, mae rheol sefydlog yn atgyfnerthu’r gofyniad cyfreithiol am gworwm – rhaid i draean o’r cynghorwyr (neu dri, pa un bynnag yw’r mwyaf) fod yn bresennol er mwyn cynnal cyfarfod. Mae rheolau sefydlog eraill yn pennu, er enghraifft:

  • trefn y busnes;
  • hyd y cyfarfodydd a hyd yr amser siarad;
  • amserlen y cyfarfodydd am y flwyddyn;
  • dirprwyo (trosglwyddo tasgau) i’r pwyllgorau a’r swyddogion;
  • gofynion pleidleisio;
  • gweithdrefnau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd.

Parchu’r cadeirydd

Y cadeirydd sydd wrth y llyw yn ystod cyfarfodydd y cyngor; mae hon yn swydd a gydnabyddir yn y gyfraith ac mae’n un sy’n ennyn parch. Cofiwch, caiff y cadeirydd ei ethol am flwyddyn yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Mae dyletswydd ar gadeiryddion i sicrhau bod pob penderfyniad yn gyfreithlon a dylent gymryd camau i gynnwys pob cynghorydd yn y drafodaeth. Mae’n arfer da i’r cadeirydd gyfeirio at y clerc am gyngor.

Yn ôl y gyfraith, prin yw’r pwerau arbennig sydd gan y cadeirydd. Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i gyngor ddirprwyo penderfyniadau i unrhyw gynghorydd unigol ac nid yw’r cadeirydd yn wahanol. Fodd bynnag, pan fydd y pleidleisiau’n gyfartal, mae gan y cadeirydd ail bleidlais, neu bleidlais fwrw, sy’n sicrhau y gellir gwneud penderfyniad.

Mae gan y cadeirydd berthynas arbennig â’r cyhoedd yn aml, yn enwedig mewn tref ble mae’r cadeirydd yn faer hefyd. Gall y cadeirydd gyflawni dyletswyddau dinesig ar ran y cyngor megis annerch digwyddiadau yn y gymuned neu groesawu ymwelwyr swyddogol o wledydd tramor. Gall y cadeirydd gael ‘lwfans cadeirydd’ ychwanegol i gynnal y rôl gyhoeddus bwysig hon.

Os bydd y cynghorwyr, y clerc a’r cadeirydd yn cydweithio fel tîm byddant yn cyfuno eu hegni a’u sgiliau i roi buddiannau gwirioneddol i’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Mae perthynas waith dda, parch tuag at ei gilydd a dealltwriaeth o’u rolau gwahanol yn hollbwysig. Gall gwrthdaro rhwng y bobl allweddol hyn, yn enwedig yn ystod cyfarfodydd o flaen y wasg neu’r cyhoedd, wneud drwg i’r cyngor.

9. Bod yn Barod

Gall eich cyfarfod cyntaf fel cynghorydd godi ofn arnoch wrth i chi dybio beth fydd yn digwydd a ble i eistedd. Gobeithio y bydd y cynghorwyr eraill yn eich croesawu.

Yn eich cyfarfod cyntaf, neu cyn y cyfarfod, rhaid i chi lofnodi’r datganiad derbyn swydd. Yn ôl y gyfraith, nid ydych yn gynghorydd nes eich bod wedi llofnodi hwn. Ar yr un pryd, rydych yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig i lynu wrth god ymddygiad eich cyngor. Cyn i chi lofnodi, rhaid i’r clerc roi copi o’r ddogfen bwysig hon i chi, ac mae’n rhaid i chi ei darllen.

O leiaf dri diwrnod clir cyn pob cyfarfod o’r cyngor neu bwyllgor, dylai gwyˆs ac agenda gael eu hanfon atoch. Pennir y tri diwrnod clir yn y gyfraith oherwydd ei bod yn bwysig cael eich hysbysu am y materion i’w trafod. Ni ellir ychwanegu pynciau y mae angen dod i benderfyniad yn eu cylch at yr agenda ar ôl y terfyn amser o dri diwrnod clir; rhaid iddynt aros am gyfarfod arall.

Mae hyn yn golygu nad yw’n bosibl gwneud penderfyniad, yn enwedig penderfyniad i wario arian neu argymhelliad yn ymwneud â chais cynllunio, heb ddigon o rybudd (tri diwrnod clir).

Dylai pob eitem ar yr agenda nodi’n glir beth y mae disgwyl i chi fel cynghorydd ei wneud a bod yn fanwl ynghylch y pwnc sydd i’w drafod. Er enghraifft, nid yw eitem ar yr agenda o dan y pennawd “Camfeydd” yn rhoi syniad i chi o’r hyn i’w ddisgwyl. Mae’n fwy defnyddiol gwybod mai eich tasg yn y cyfarfod yw:

  • Cael adroddiad gan y Cynghorydd Gorie ar gyflwr y camfeydd yn y gymuned a chytuno ar gamau gweithredu mewn ymateb i’r cynigion (amgaeir copi o’r adroddiad).

Mae eitemau agenda amwys nad ydynt yn nodi’r union fusnes (fel Materion yn Codi, Gohebiaeth ac Unrhyw Fater Arall) yn beryglus gan na allwch wneud penderfyniadau o dan y penawdau hyn.

Cyfrifoldeb y clerc yw’r agenda. Rhaid i’r clerc lofnodi’r agenda a gall benderfynu sut y caiff ei llunio. Gwneir y broses hon yn aml drwy ymgynghori â’r cadeirydd. Gallwch ofyn i’r clerc ychwanegu eitemau at yr agenda os teimlwch y dylid trafod pwnc perthnasol.

Mae’r pum cwestiwn canlynol yn helpu cynghorwyr i baratoi ar gyfer cyfarfod.

  • Beth yw diben y cyfarfod?
  • Pa ran y dylwn ei chwarae?
  • Pa bapurau y mae’n rhaid i mi eu darllen?
  • Pa bobl y mae angen i mi ymgynghori â hwy?
  • Beth yr addewais ei wneud cyn y cyfarfod hwn?

10. Yn y Cyfarfod

Beth os na allwch fod yn bresennol? Cofiwch, dylech fod yn bresennol ond weithiau gall pethau godi ac ni allwch fynd. Dylech gysylltu â’r clerc i ymddiheuro a rhoi eglurhad. Os na fyddwch yn mynychu unrhyw gyfarfodydd am chwe mis rhaid i chi ofyn i’r cyngor gymeradwyo’r rheswm pam nad ydych yn gallu mynychu, cyn diwedd y cyfnod hwn. Heb gymeradwyaeth ffurfiol y cyngor, cewch eich gwahardd ac ni fyddwch bellach yn gynghorydd.

Cofiwch, os oes posibilrwydd bod gennych fuddiant personol yn un o benderfyniadau’r cyngor, rhaid i chi ddatgan y buddiant hwnnw cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol ohono. Y cwestiwn mawr, os ydych wedi datgan buddiant personol yn ymwneud â mater sy’n cael ei ystyried yn y cyfarfod, yw a yw hwnnw’n fuddiant sy’n rhagfarnu (sy’n niweidio eich barn er budd y cyhoedd). Os felly, ni allwch gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater, a bydd rhaid i chi adael y cyfarfod tra bydd y mater yn cael ei ystyried (oni bai eich bod wedi cael caniatâd Pwyllgor Safonau’r prif awdurdod). Dylai’r agenda gynnwys eitem sy’n rhoi cyfle i gynghorwyr ddatgan unrhyw fuddiannau, ond dylech ddatgan buddiant ar unrhyw bwynt os dewch yn ymwybodol o un yn ystod y cyfarfod.

Wrth gwrs, gwaith y cadeirydd yw rheoli’r cyfarfod drwy gyflwyno eitemau ar yr agenda, gwahodd aelodau i siarad, llywio’r drafodaeth, egluro materion y mae angen dod i benderfyniad yn eu cylch a chrynhoi’r drafodaeth. Mae cynghorwyr, ar ôl trafod, yn pleidleisio dros y cynnig neu yn ei erbyn drwy godi dwylo. Gelwir materion y mae angen dod i benderfyniad yn eu cylch yn gynigion ac fe’u cofnodir fel penderfyniadau; yn y cofnodion; er enghraifft, “Penderfynwyd y bydd y cyngor yn cyfrannu £2000 i’r cynllun bysiau cymunedol.” Os nad oes gennych farn ar gynnig, neu os na allwch benderfynu, gallwch atal eich pleidlais, ond ni ddylech wneud hynny’n rhy aml. Fel arfer ni chaiff enwau pleidleiswyr eu cofnodi ond os bydd angen, gallwch ofyn i enwau gael eu cofnodi.

Cofiwch fod penderfyniadau’r cyngor yn benderfyniadau corfforaethol. Mae’n arfer da chwilio am atebion adeiladol a chymaint o dir cyffredin â phosibl.

Dylech gadw cyfraniadau yn fyr ac yn gryno; mae’n siwˆ r nad ydych yn mwynhau gwrando ar eraill sy’n siarad am ormod o amser. Gweithiwch drwy’r cadeirydd bob amser a cheisiwch beidio â cheisio cael y gorau ar gyd-gynghorwyr. Peidiwch byth ag ymosod yn bersonol ar eraill – er bod temtasiwn i wneud hynny efallai. Os gallwch gynnwys ychydig o hiwmor a synnwyr cyffredin yn y cyfarfod yna bydd yn bleser gweithio gyda chi!

Rhaid i’r cyngor hysbysebu’r cyfarfodydd drwy hysbysiadau cyhoeddus; mae gan y cyhoedd hawl i fod yn bresennol. Dylai’r cyngor roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ddweud eu dweud yn ystod cyfnod byr, diffiniedig, yn fuan yn y cyfarfod. Yn ôl Paragraff 14 (2) o’r cod ymddygiad enghreifftiol, gall cynghorydd sydd wedi datgan buddiant sy’n rhagfarnu mewn eitem ar yr agenda wneud sylwadau llafar, ateb cwestiynau neu ddarparu tystiolaeth ar y mater, ar yr amod bod y cyhoedd hefyd yn cael cyfle i fod yn bresennol i’r un diben. Bydd rhaid i’r cynghorydd adael yr ystafell, yn ôl yr arfer, pan fydd y cyngor yn trafod y mater. Os na fydd cynghorydd yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod i gyflwyno sylwadau llafar, caiff gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (unwaith eto, ar yr amod bod y cyhoedd yn cael bod yn bresennol yn y cyfarfod i wneud sylwadau), ond bydd rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw weithdrefn y mae’r cyngor wedi’i mabwysiadau at y diben hwn. Yn ogystal â hynny, byddai cynghorwyr sir, cynghorwyr bwrdeistref sirol a swyddogion yr heddlu fel arfer yn cyfrannu at y cyfarfod ar wahoddiad y cadeirydd, wrth drafod yr eitem briodol ar yr agenda.

Rhaid i’r cyfarfod fod â chworwm bob amser, felly os bydd angen i chi adael yn ystod cyfarfod o’r cyngor cofiwch roi gwybod i’r clerc a’r cadeirydd ymlaen llaw.

Fel rheol, ni ddylai cyfarfodydd bara mwy na dwyawr neu bydd yn dechrau mynd yn anodd canolbwyntio. Mae agenda wedi ei llunio’n dda gyda phynciau penodol i’w trafod yn ffordd werthfawr o helpu’r cadeirydd i ddod â’r cyfarfod i ben ar amser.

11. Ar ôl y Cyfarfod

Mae’r penderfyniadau wedi eu gwneud ac mae angen eu rhoi ar waith. Mae’r clerc neu ysgrifennydd y cofnodion yn ysgrifennu’r cofnodion fel cofnod cyfreithiol o’r hyn y penderfynwyd arno yn y cyfarfod. Nid oes angen nodi pwy a ddywedodd beth – gellir crynhoi’r drafodaeth ond rhaid i’r penderfyniadau gael eu cofnodi’n fanwl gywir. Mae’n bwysig bod y cofnodion yn gywir ac felly caiff cofnodion y cyfarfod diwethaf eu cadarnhau a’u llofnodi ar ddechrau’r cyfarfod nesaf. Mae’n syniad da i’r cofnodion gofnodi’n glir y camau i’w cymryd yn dilyn y cyfarfod.

Beth sy’n digwydd os bydd angen gwneud penderfyniad rhwng cyfarfodydd? Os oes angen trafodaeth lawn ar y mater, gall y cadeirydd alw cyfarfod arbennig, ond mae dirprwyo yn ddull defnyddiol. Mae adran 101 (Deddf Llywodraeth Leol 1972) yn caniatáu i gyngor ddirprwyo’r pwˆ er i wneud penderfyniadau i swyddog, i bwyllgor, i is-bwyllgor neu i gyngor arall. Mae’n arfer da nodi mewn rheolau sefydlog y math o benderfyniadau y gall y clerc eu gwneud megis penderfyniadau arferol, delio ag argyfwng neu wario symiau bach o arian. Efallai y bydd rheolau sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i’r clerc wneud penderfyniadau ar ôl ymgynghori â dau gynghorydd (gan gynnwys y cadeirydd) ond penderfyniad y swyddog fydd hyn o hyd. Yn bwysicaf oll, ni ddylai’r cyngor ganiatáu i’r mater gael ei ddirprwyo i un cynghorydd – nid hyd yn oed i’r cadeirydd.

Rhan pedwar:  Cyflawni’r Hyn Sydd  ei Angen

12. Gwasanaethau

Rydych wedi cwblhau’r cylch erbyn hyn ac yn dychwelyd at y materion a godwyd yn Rhan Un. Bydd y cynghorau cymuned a thref gorau am wella ansawdd bywyd a’r amgylchedd i bobl yn eu cymuned. Y duedd ledled Cymru a Lloegr yw i’r haen o lywodraeth sydd agosaf at y bobl fod yn fwy gweithredol a darparu mwy o wasanaethau. Mae’r adran hon yn awgrymu sut y gall y cyngor fod yn ddeinamig ac yn broffesiynol wrth gyflawni’r hyn sydd ei angen, yn enwedig os yw’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill.

Gall cynghorau cymuned a thref ddefnyddio eu pwerau cyfreithiol i ddarparu llawer o wasanaethau, o ganolfannau cymunedol i wyliau, ac o randiroedd i fysiau. Gall cynghorau wneud bron unrhyw beth ar yr amod eu bod yn gweithredu’n gyfreithlon a bod ganddynt bwˆ er neu ddyletswydd i wneud hynny (gweler Rhan Pump am restr o bwerau).

Mae cynghorau cymuned a thref hefyd yn darparu gwasanaethau mewn partneriaeth â chyrff eraill (gan gynnwys cynghorau cymuned cyfagos), neu fel asiant iddynt. Mae’n bwysig bod gwaith y cyngor cymuned neu dref yn ategu gwaith y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol; mae hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, gallai cyngor cymuned neu dref reoli gwasanaethau llyfrgell i’r awdurdod sirol neu’r awdurdod bwrdeistref sirol neu ddarparu gwasanaeth torri gwair sy’n diwallu anghenion lleol yn well. Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar bob cyngor i lunio cytundebau ‘Siarter’ fel sail ar gyfer y berthynas â’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn yr ardal. Ceir canllawiau ar ddatblygu siarteri yn ‘Cymuned ar y Cyd – Meithrin cydberthynas a siarteri ar gyfer awdurdodau unedol a chynghorau cymuned a thref’.

Os bydd y cyngor cymuned neu dref yn cymryd yr awenau wrth sefydlu partneriaeth, yna dylai gynrychioli grwpiau buddiannau cymunedol a buddiannau lleiafrifol (megis pobl anabl neu grwpiau ethnig) naill ai drwy aelodaeth neu drwy ymgynghori. Dylai maint y bartneriaeth fod yn hawdd ei reoli – hyd at ugain partner dyweder – a dylai anelu at roi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.

Gallai cynghorau cymuned a thref weithio mewn partneriaeth hefyd, er enghraifft, â phwyllgor neuadd y pentref i helpu pobl ifanc leol, neu â chwmnïau i annog twristiaeth. Gallant gynnig arian, offer a safleoedd, i helpu eraill i ddarparu gwasanaethau. Gall rhoi grantiau i sefydliadau sy’n cynnig gwasanaeth gofal plant, gwasanaethau i’r henoed, gweithgareddau celf, gwaith clirio pyllau neu chwaraeon wella ansawdd bywyd cymunedol. Mae grant gweddol fach yn aml yn helpu corff arall i sicrhau rhagor o gyllid o ffynonellau eraill, megis y Loteri.

Gall y cyngor cymuned neu dref weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf (neu bwynt gwybodaeth) ar gyfer yr holl wasanaethau lleol. Gellid cael gafael ar wasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill, gan gynnwys awdurdodau sir ac awdurdodau bwrdeistref sirol a chyrff gwirfoddol, drwy gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd sydd ar gael yn y cyngor cymuned. Os credwch na allai eich cyngor ei fforddio, yna gofynnwch i chi eich hun a fyddai pobl leol yn talu ychydig yn fwy o dreth gyngor, pe baent yn gallu gweld bod y cyngor cymuned neu dref yn sicrhau manteision gwirioneddol.

13.  Paratoi Cynllun

Sut y gwˆ yr eich cyngor pa wasanaethau i’w darparu neu ba weithgareddau i’w cynnal? Mae’r ateb yn glir. Mae’n ymgynghori, yn gwrando ac yn nodi beth sydd ar goll; yna mae’n cytuno ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ac mae ei bolisïau a’i gynlluniau gweithredu yn dechrau ymffurfio.

Yn Rhan Un, awgrymwyd bod arolygon, mapiau cymunedol, cynadleddau cymunedol, datganiadau dylunio a Planning for Real® yn ffyrdd y gall eich cyngor nodi anghenion a dymuniadau pobl leol. Mae dulliau fel hyn yn atgyfnerthu’r ysbryd cymunedol ac yn meithrin hyder, yn enwedig os ydynt yn cynnwys pob rhan o’r gymuned. Mae cyngor sy’n gwrando yn gwybod bod ganddo gefnogaeth leol i’r camau y bydd yn eu cymryd.

Wrth ystyried pa wasanaethau i’w darparu neu ba weithgareddau i’w cefnogi, dylai cynghorau cymuned a thref hefyd roi ystyriaeth i’r asesiad o lesiant ar gyfer eu hardal a’r amcanion yn y cynllun llesiant lleol. Dim ond ar rai cynghorau cymuned a thref y bydd dyletswydd i gymryd camau rhesymol tuag at gyflawni’r amcanion hynny, ond mae gan bob cyngor ran bwysig i’w chwarae er mwyn gwella llesiant yn eu hardal.

Nid yw’r syniad y gallai cyngor tref neu gymuned fod â strategaeth neu gynllun busnes yn syndod i neb erbyn hyn. Mae’n ffordd hollbwysig o lywio’r hyn a wneir; mae’n dangos yn glir yr hyn y mae’r cyngor eisiau ei gyflawni a’r ffordd y bydd yn gwneud hynny.

Unwaith y byddwch yn gwybod beth rydych chi (a phobl yr ardal yn arbennig) am ei gael, gallwch benderfynu sut i dalu amdano. Mae llawer o gynghorau yn dechrau gyda’r arian ac yna’n penderfynu beth y gellir ei wneud gyda’r arian hwnnw. Mae rhai cynghorau yn honni bod cyn lleied o arian ganddynt fel na allant wneud bron ddim. Mae tystiolaeth yn awgrymu’n glir y byddai trethdalwyr lleol yn barod i dalu mwy pe baent yn gallu gweld canlyniadau ar ffurf gwell gwasanaethau. Gofynnwch yn gyntaf, ac yna pennwch y gyllideb yn unol â hynny. Bydd y cynghorau gorau yn llunio cynllun busnes yn cysylltu camau a chyllid ar gyfer cyfnod y weinyddiaeth – pedair blynedd, dyweder.

Beth bynnag fo dull eich cyngor o lunio cynlluniau, dywed y rheoliadau ariannol fod yn rhaid iddo gael cyllideb. Mae’n gyngor da i ddilyn yr egwyddor ganlynol: mae’r Cynllun yn creu’r Gyllideb sy’n pennu’r Praesept. Cofiwch, cymerir y praesept o’r dreth gyngor. Dylai eich cyngor ymchwilio i ffynonellau ariannu eraill megis grantiau a nawdd i’w helpu i weithredu ei bolisïau; cyllid nad yw’n braesept yw traean o incwm cyngor cymuned, ar gyfartaledd.

Mae cynghorau cymuned a thref yn chwarae rhan weithredol wrth gynrychioli buddiannau’r gymuned mewn unrhyw bartneriaeth a

sefydlir i reoli camau lleol i wella ansawdd bywyd a’r amgylchedd. Mae cynrychiolaeth cyngor cymuned neu dref ar gyrff eraill a chyddrefniadau gwaith yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. Pan fydd y cyfle yn codi, dylech ystyried gwneud cais am y swyddi hyn.

Gall cynghorwyr neu swyddogion gynrychioli’r cyngor ar bartneriaeth. Mae cynrychiolwyr yn parhau i fod yn atebol i’r cyngor cymuned neu dref a rhaid iddynt adrodd yn ôl yn rheolaidd.

Mae cynllun yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn llywio cyfraniad y cyngor tref neu gymuned at ddatblygu Cynllun Llesiant Lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru yw aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus; ac estynnir gwahoddiad i eraill fynychu ei gyfarfodydd. Mae gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddyletswydd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy helpu i gyflawni’r nodau llesiant. I gyflawni’r ddyletswydd hon, bydd partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau ac yn ystyried y dystiolaeth cyn llunio Cynllun Llesiant Lleol.

Un o’r heriau allweddol yw sicrhau bod y Cynllun Llesiant Lleol yn gwneud cynigion yn unol ag anghenion ac amcanion y gymuned leol benodol y mae’r cyngor cymuned neu dref yn ei chynrychioli. Mae hon yn adeg gyffrous i fod yn gynghorydd cymuned. Bydd cynlluniau a pholisïau yn eich llywio wrth i chi geisio gwella ansawdd bywyd y gymuned.

14.  Cynllunio Gwlad a Thref

Mae Cynllunio Gwlad a Thref wedi’i ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol i’w chael yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Gall cyfraniad eich cyngor at y gwaith o baratoi cynlluniau eich helpu i reoli newid ond mae’r system gynllunio ehangach yn effeithio’n fawr ar fywyd yn y gymuned ac mae’n ffordd hollbwysig o sicrhau buddiannau. Cynllunio gwlad a thref (cynllunio’r defnydd o dir a gofod ffisegol), yw’r gweithgaredd pwysicaf un i lawer o gynghorau. Mae’n syndod felly nad oes gan lawer o gynghorau cymuned neu dref eu polisïau eu hunain i lywi ymatebion i geisiadau cynllunio. Gall diffyg polisïau lleol penodol ar ddatblygu a diogelu’r ardal arwain at gyflwyno sylwadau anghyson a byrfyfyr i’r awdurdod cynllunio lleol (y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol, neu awdurdod Parc Cenedlaethol).

Felly pa ran y mae eich cyngor cymuned neu dref yn ei chwarae yn y system gynllunio? Mae gan gynghorau cymuned a thref hawl gyfreithiol i ofyn am gopïau o geisiadau cynllunio a gallant wneud sylwadau am rinweddau ceisiadau cynllunio. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau cymuned a thref yn rhoi o’u hamser a’u hegni yng nghyfarfodydd y cyngor llawn neu’r pwyllgor cynllunio, i benderfynu pa argymhellion i’w gwneud. Er nad oes yn rhaid i’r awdurdod cynllunio gytuno, rhaid iddo ystyried barn y gymuned. Os nad yw’r awdurdod cynllunio lleol yn cytuno â’ch sylwadau, dylech ystyried gofyn am ei resymau.

Mae rhai ceisiadau cynllunio yn ceisio cymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer datblygiadau drwy ganiatâd cynllunio amlinellol. Os na chaiff cynlluniau eu hystyried yn briodol yn ystod y cam hwn, mae’n aml yn rhy hwyr i fynegi pryder pan ddaw manylion llawn y cynigion amlinellol a gytunwyd gerbron y cyngor yn ddiweddarach.

Dylai sylwadau eich cyngor ar gais cynllunio gydymffurfio â’r cynllun datblygu a fabwysiadwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol, neu mae’n bosibl y cânt eu hanwybyddu. Rhaid i’r awdurdod cynllunio, yn ôl y gyfraith, gael ei lywio gan ei gynllun datblygu ei hun.

Mae angen i’r cyngor cymuned neu dref ddeall y gweithdrefnau y bydd yr awdurdod cynllunio’n eu dilyn wrth wneud penderfyniadau. Gwneir rhai penderfyniadau gan bwyllgor cynllunio’r awdurdod, ond

dirprwyir y rhan fwyaf o’r penderfyniadau i swyddogion. Mae ystyriaethau perthnasol yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau – materion sydd, yn ôl y gyfraith, yn berthnasol i gais cynllunio. Rhaid ystyried materion o’r fath wrth wneud argymhelliad ar gais cynllunio. Ymhlith yr ystyriaethau perthnasol mae:

  • cynllun datblygu’r awdurdod cynllunio;
  • hanes cynllunio safle (gan gynnwys ceisiadau cynharach);
  • hygyrchedd;
  • traffig;
  • ffyrdd a pharcio;
  • archaeoleg;
  • arolwg, cynllun neu ddatganiad dylunio cymunedol.

Mae eich teimladau personol am y cais, neu’r ymgeisydd, yn amherthnasol. Budd ehangach y cyhoedd sy’n bwysig.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnig cyngor a hyfforddiant i gynghorwyr tref a chymuned ynglyˆn â’u cyfraniad at y broses gynllunio.

Mae tri ymateb posibl i gais cynllunio. Gall eich cyngor benderfynu argymell ei fod yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod, neu ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau. Gall y cyngor cymuned neu dref awgrymu amodau priodol megis deunyddiau, y maint mwyaf, trefniadau parcio neu drefniadau mynediad.

Mae’r awdurdod cynllunio yn gyfrifol am reoli datblygu, sef rheoli datblygiadau

drwy geisiadau cynllunio (ac eithrio rheoli Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan mai Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â hynny). Mae gwybodaeth leol y cyngor cymuned neu dref, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o’r broses gynllunio, yn golygu bod ei safbwyntiau yn fwy tebygol o gael gwrandawiad gan yr awdurdod cynllunio neu gan Lywodraeth Cymru. Fel y dywedodd un swyddog cynllunio; “mae rhai cynghorau cymuned a thref yn deall y system ac yn ddylanwadol … ac eraill ddim.” Sylwch, yn achos Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, y gall cynghorau cymuned ddewis cynhyrchu adroddiadau ar yr effaith  ar y gymuned.

Gall cynghorau cymuned a thref dreulio oriau ar reoli datblygiadau gan anghofio, efallai, fod dylanwadu ar bolisïau’r awdurdod cynllunio yr un mor bwysig. Y ddogfen unigol fwyaf dylanwadol yn y broses gynllunio yw cynllun datblygu’r awdurdod cynllunio lleol. Rhaid gwneud pob penderfyniad cynllunio yn unol â’r cynllun datblygu, oni bai fod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Os nad yw eich cyngor yn cymryd rhan pan fydd y cynllun yn cael ei drafod a’i ddatblygu, gall gael sioc annifyr yn nes ymlaen, pan fydd yn ceisio gwrthwynebu ceisiadau cynllunio a gyflwynir yn unol â pholisïau’r cynllun. Caiff cynlluniau datblygu eu monitro’n flynyddol.

Mae datganiad dylunio yn atodiad i’r cynllun datblygu lleol a gall ddylanwadu ar y ffordd y rheolir datblygiadau. Fe’i cynhyrchir fel arfer gan y cyngor cymuned neu dref, ar y cyd â’r gymuned y mae’n perthyn iddi. Ar ôl cael ei dderbyn gan yr awdurdod cynllunio daw yn ddogfen gynllunio atodol. Mae cymuned â datganiad dylunio yn fwy tebygol o gytuno ynglŷn â materion cynllunio. Mae hefyd yn bosibl gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod cynllunio lleol i lunio elfen ar wahân o gynllun gweithredu cymuned neu dref sy’n cwmpasu cynllunio gofodol perthnasol – goblygiadau’r cynllun gweithredu ar gyfer gofod ffisegol o fewn y gymuned. Yna gellir mabwysiadu elfen ofodol y cynllun fel dogfen gynllunio atodol.

Gall cynllunio gynhyrfu pobl ac mae gan y cyngor gyfrifoldeb dros gynrychioli’r gymuned gyfan, ac nid y rhai â’r lleisiau cryfaf yn unig. Mae cynllunio, fel cyllid, yn aml yn golygu trafferth i’r cyngor. Rhaid i’r cyngor sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith. Ni all ei farn ar gais cynllunio gael ei chrynhoi o sylwadau a ysgrifennir ar gopi o gais a drosglwyddir o gynghorydd i gynghorydd y tu allan i gyfarfod. Rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud mewn cyfarfodydd sy’n gyfreithlon ac wedi eu rheoli’n dda. Os yw hynny’n briodol, mae’n arfer effeithlon i’r pwyllgor cynllunio gyfarfod bob pythefnos gan ei bod yn ofynnol i awdurdod cynllunio eich cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol benderfynu ar geisiadau cynllunio o fewn amserlen dynn.

Dylai cynghorwyr ddilyn y cod ymddygiad bob amser – cofiwch y buddiannau personol hynny. Gall fod yn arbennig o anodd i gynghorydd tref neu gymuned sydd hefyd yn gwasanaethu ar bwyllgor cynllunio cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. Gall cynghorwyr sy’n gwisgo dwy het siarad a phleidleisio ar gais gerbron y naill gyngor a’r llall. Wrth ystyried cais i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol, rhaid i gynghorwyr sy’n gwisgo dwy het gadw meddwl agored ac osgoi cael eu dylanwadu gan safbwynt y cyngor cymuned neu dref; yn lle hynny, rhaid iddynt ystyried y cais o safbwynt y sir. Yn ogystal â gwneud penderfyniadau yn deg, yn agored ac mewn modd diduedd, rhaid i gynghorwyr gael eu gweld yn gwneud hynny. Mae meddwl agored yn hanfodol ar gyfer unrhyw agwedd ar waith y cyngor.

15.  Y Cyngor Cymuned Gweithredol

Wrth wraidd arferion gorau o ran darparu gwasanaethau a chynllunio cymunedol mae’r cyngor cymuned neu’r cyngor tref gweithredol yn gweithio mewn partneriaeth â’i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. Dylai cynghorau weithio i wella’r broses gyfathrebu rhwng yr haenau ym mhob maes y darperir gwasanaethau ynddo.

Bydd cyngor sy’n defnyddio dull cyfathrebu electronig ac sydd â’i wefan ryngweithiol ei hun yn rhoi delwedd fwy modern, deinamig a phroffesiynol i’r cyhoedd. Mae gwefannau yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cymunedau ar wasgar. Yn arbennig, gall y cyngor cymuned neu dref ddarparu pwynt gwybodaeth ‘un stop’ gyda mynediad electronig i wasanaethau mewn mannau eraill. Mae dull cyfathrebu electronig yn sicrhau y gellir cael gafael yn gyflym ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan sefydliadau megis Llywodraeth Cymru neu’r cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. Mae hefyd yn ffordd werthfawr o gysylltu cynghorwyr â’u hetholwyr, yn enwedig pobl ifanc, a gellir ei ddefnyddio i hwyluso rhwydweithio rhwng cynghorau cymuned a thref.

Gall cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ystyried trosglwyddo cyllid pellach fel y gall y cynghorau cymuned a thref ddarparu mwy o wasanaethau. Ni fydd pŵer yn cael ei drosglwyddo oni fydd gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ffydd ym mhroffesiynoldeb y cyngor cymuned neu dref a’i allu i gyflawni ei waith. Gall cytundebau Siarter fod yn sylfaen ar gyfer cynnal trafodaethau rhwng cynghorau sy’n awyddus i ymchwilio i ddirprwyo gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau cymuned a thref, fel sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n cynrychioli cymunedau lleol, i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i sicrhau’r gorau i bobl leol. Dylai’r cyngor cymuned neu dref ddewis ei gynrychiolydd ar bartneriaeth yn ofalus, gan ddibynnu ar brofiad ac arbenigedd a’r gallu i gynrychioli amrywiaeth barn y gymuned leol; mae hyn yn golygu cael eu hysbysu’n llawn am bob barn. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y sianeli cyfathrebu ar agor fel bod y trafodaethau a’r penderfyniadau a wneir gan y bartneriaeth yn cael eu cyfleu’n glir i’r gymuned dan sylw, ac i’r gwrthwyneb.

Yn aml, cynrychiolir y cyngor cymuned neu dref ar sefydliadau eraill yn y gymuned, gan gynnwys corff llywodraethu ysgol gynradd ble y cynrychiolir y gymuned. Mae cyswllt

â sefydliadau eraill yn helpu’r cyngor i fod yn ymwybodol o anghenion a buddiannau lleol. Mae hefyd yn helpu’r cyngor i gydlynu gweithgareddau a goruchwylio grantiau a rydd i grwpiau lleol.

Mae’r cyngor cymuned neu dref gorau yn cynrychioli pob rhan o’i gymuned ac yn creu ymdeimlad o berthyn. Ei nod yw bod yn gynhwysol drwy sicrhau nad yw neb yn teimlo o dan anfantais. Yn arbennig, rhaid iddo sicrhau na chaiff pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg neu Saesneg fel eu hiaith gyntaf (neu siaradwyr ieithoedd eraill) eu heithrio.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn creu polisïau a deddfwriaeth drwy’r amser ac mae’n hollbwysig bod yn ymwybodol o newidiadau wrth iddynt ddatblygu. Mae’n hanfodol i gynghorwyr a staff y cyngor fynychu cyrsiau hyfforddi, yn arbennig rhai a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad personol yn ogystal â helpu i sicrhau bod gan y cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf (gweler Rhan Pump am ragor o ganllawiau).

I grynhoi, mae’r cyngor cymuned neu dref da:

  • yn darparu arweiniad cymunedol a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol;
  • yn gwrando ar bobl leol ac yn rhoi llais i’w hanghenion;
  • yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol;
  • yn eu hysbysu’n rheolaidd am yr hyn a wna a pham;
  • yn gweithredu mewn ffordd broffesiynol; mae hyn yn golygu bod ei gyllid wedi ei reoli’n dda; ei fod yn cydymffurfio â safonau uchel o ran ymddygiad ac yn cael ei wasanaethu gan glerc hyfforddedig;
  • yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn enwedig awdurdodau sir ac awdurdodau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned a thref eraill;
  • yn ymrwymedig i hyfforddiant a datblygiad parhaus, nid yn unig i’w staff ond i gynghorwyr hefyd;
  • yn weithredol ac wedi ei ethol gan y gymuned.

Y syniad canolog yw bod gan y cyngor berthynas agos â’i gymuned a’i fod mor weithgar fel bod pobl am wasanaethu fel cynghorwyr – felly dyna pam y ceir etholiadau. Gweledigaeth o ddemocratiaeth ar ei gorau ydyw; pleidleisiau lleol i bobl leol ar gyfer gweithredu’n lleol.

Mae’r rhan nesaf a’r rhan derfynol yn cynnwys cyngor, cysylltiadau a gwybodaeth arall i’ch helpu wrth eich gwaith fel cynghorydd cymuned.

Rhan pump: Offer Angenrheidiol

16. Peryglon

Gall rhywbeth fynd o’i le hyd yn oed yn y cynghorau gorau, felly un o’r adnoddau mwyaf defnyddiol yw clerc y cyngor. Gall clercod hyfforddedig sylweddoli pan fydd angen rhoi sylw i rywbeth; os na allant ddatrys y broblem, byddant yn gwybod am rywun a all wneud hynny.

Dylai eich cyngor ragweld lle y gallai’r system fethu neu ble y gallai damweiniau ddigwydd. Er enghraifft, gallai fod yn beryglus i’r cynghorwyr, y clerc a’r cadeirydd:

  • os byddant yn ansicr o’u priod rolau, dyletswyddau a chyfrifoldebau;
  • os nad ydynt yn gweithio fel tîm neu os nad ydynt yn parchu ei gilydd;
  • os nad ydynt yn cyfathrebu â’i gilydd;
  • os byddant yn canolbwyntio ar gael y gorau ar eraill.

At hynny, gallai’r cyngor wynebu anhawster:

  • os yw’n caniatáu i unigolyn neu grwˆ p bach o gynghorwyr gael gormod o ddylanwad;
  • os yw’n caniatáu i un cynghorydd (gan gynnwys y cadeirydd) wneud penderfyniadau ar ei ran;
  • os nad yw’n gwrando ar ei gymuned, ar gynghorau cymuned a thref eraill, ar awdurdodau sirol ac awdurdodau bwrdeistref sirol ac ar gyrff allanol, ac yn cyfathrebu â hwy;
  • os yw’n anwybyddu neu’n ennyn gwrthwynebiad y wasg;
  • os nad oes ganddo gontractau cyflogaeth ar gyfer staff ac os nad yw’n talu staff am yr oriau a weithiant yn ôl cyfraddau tâl a argymhellir;
  • os nad yw’n cadw ei gofnodion yn drefnus ac os nad oes ganddo system reolaeth ariannol gadarn;
  • os nad yw’n rheoli cyfarfodydd yn effeithiol;
  • os nad oes gwybodaeth ddigonol ganddo am y pynciau i’w trafod.

Mae pawb yn y tîm yn gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn osgoi’r peryglon hyn ac yn y pen draw, y cyngor sy’n atebol. I’r gwrthwyneb, mae cynghorwyr hyddysg sydd wedi paratoi’n ofalus yn osgoi anawsterau ac yn rhoi o’u hegni i wasanaethu’r gymuned.

17.  Dogfennau Pwysig

Dylech bob amser wybod ble y cedwir eich dogfennau pwysig fel y gallwch gyfeirio atynt pan fydd angen.

Fe’ch cynghorir i gael eich copi eich hun o’r canlynol:

  • amserlen y cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod;
  • rheolau sefydlog y cyngor;
  • rheoliadau ariannol y cyngor;
  • y cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan eich cyngor;
  • manylion cyswllt cynghorwyr a’r clerc (ond noder, dim ond yn ystod oriau gwaith penodedig y dylid cysylltu â’r clerc);
  • y gyllideb am y flwyddyn bresennol;
  • cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Bydd yn ddefnyddiol i chi wybod hefyd a oes gan eich cyngor y canlynol ac, os oes, beth sydd ynddynt. Y clerc sy’n cadw’r dogfennau hyn fel arfer:

  • map o’r gymuned;
  • y cynllun gweithredu cymunedol;
  • strategaeth, cynllun gweithredu neu gynllun busnes y cyngor;
  • y datganiad dylunio;
  • y cynllun llesiant lleol a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;
  • y cynllun datblygu lleol a fabwysiadwyd gan y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol;
  • polisi rheoli datblygu eich cyngor cymuned;
  • polisïau cyfle cyfartal ac iechyd a diogelwch;
  • prosesau ar gyfer ymdrin ag argyfyngau a gweithio gyda’r cyfryngau;
  • gweithdrefnau cwyno;
  • Cynllun Iaith Gymraeg y cyngor;
  • cynllun cyhoeddi’r cyngor ar gyfer y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth;
  • polisi asesu risg;
  • cofrestr asedau (rhestr o eiddo);
  • cofrestr o fuddiannau’r cynghorwyr;
  • cytundebau prydlesu;
  • polisïau yswiriant;
  • y llyfr arian parod ar gyfer cofnodi derbyniadau a thaliadau;
  • rhestr o daliadau a ffioedd y cyngor am wasanaethau a chyfleusterau;
  • cytundebau partneriaeth.

Efallai y bydd angen i chi wybod y canlynol hefyd:

  • maint a chyfansoddiad poblogaeth y gymuned a’i hetholaeth;
  • faint o dreth gyngor y mae cartref cyffredin yn ei thalu i’r cyngor cymuned neu dref;
  • manylion cyswllt cynghorwyr yr awdurdod sirol a’r awdurdod bwrdeistref sirol;
  • manylion cyswllt sefydliadau lleol.

Peidiwch â phoeni os nad yw’r holl wybodaeth hon ym meddiant eich cyngor. Gellir ei chasglu dros amser – ar wahân i eitemau hanfodol fel y rheoliadau ariannol, y mae’n rhaid iddynt fodoli eisoes.

18. Ffynonellau Cyngor

Dylech ddechrau bob amser drwy ofyn i’ch clerc. Gwaith y clerc yw derbyn gwybodaeth gan gyrff eraill a sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ganddo ar eich rhan. Fel cyngor, dylech fonitro llwyth gwaith y clerc i sicrhau bod digon o oriau i gyflawni’r tasgau y mae’r cyngor yn gofyn iddo eu gwneud. Bydd eich clerc (a’r cyngor) yn elwa os yw’r clerc yn aelod o’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Mae’r Gymdeithas yn darparu cyngor cyfreithiol, ariannol a chyngor arall, cwrs hyfforddi  ar-lein a chryn gymorth a chanllawiau gan rwydwaith y clercod. Cynghorir eich cyngor i dalu tanysgrifiad y clerc i’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.

Sefydliadau

Mae’n debyg mai’r cam nesaf o ran cyngor ar faterion cyfreithiol, polisi a hyfforddiant cynghorwyr fydd cysylltu ag Un Llais Cymru neu ei bwyllgor ardal. Bydd angen i’ch cyngor yn aelod er mwyn elwa ar ei wasanaethau a chael y newyddion diweddaraf am newidiadau sy’n effeithio ar gynghorau cymuned a thref.

Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd sefydliad megis y Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol neu Gweithredu Gwirfoddol sy’n cynnig cyngor ar ddarparu gwasanaethau’n lleol, cyllid a phrosiectau cymunedol.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru  (www.planningaidwales.org.uk) yn ffynhonnell annibynnol o gyngor ar bob math o faterion cynllunio. Mae’n hynod werthfawr i gymunedau lleol sy’n cymryd rhan yn y broses gynllunio.

Mae rhagor o fanylion ynghylch rôl a swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth am ba safonau sy’n berthnasol i Brif Gynghorau, i’w cael ar wefan y Comisiynydd:

www.comisiynyddygymraeg.cymru

Cyhoeddiadau

Bydd eich clerc neu’r ymgynghorydd sy’n cynrychioli Un Llais Cymru yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyhoeddiadau canlynol. Mae Un Llais Cymru yn dosbarthu gwybodaeth ac yn rhoi help a chyngor i gynghorwyr.

Mae The Parish Councillor’s Guide gan Paul Clayden yn ganllaw cyflym a darllenadwy i gyfraith ac arfer cynghorau tref, plwyf a chymuned. Nodir y pynciau yn nhrefn yr wyddor, a chyhoeddwyd yr 20fed rhifyn yn 2009 gan Shaw and Sons.

Cyhoeddwyd Local Councils Explained gan

Gymdeithas Genedlaethol y Cynghorau

Lleol yn 2013. Mae’n egluro’r gyfraith a’r gweithdrefnau ar gyfer cynghorau ac yn cynnwys rheolau sefydlog enghreifftiol.

Mae Llawlyfr Cynghorwyr Cymuned a Thref: Y system cynllunio defnydd tir yng Nghymru (2005) yn darparu cyngor defnyddiol ar y ffordd o ymwneud â’r system gynllunio.

www.planningaidwales.org.uk/how-pawcan-help/information/publications

Mae Datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru gan yr Athro Michael Woods o Brifysgol Aberystwyth yn adolygiad o dystiolaeth a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru (cyhoeddwyd yn 2014).

Ar gyfer y cynghorydd sy’n chwilio am wybodaeth fanwl am y gyfraith a gweithdrefnau, mae Arnold-Baker on Local Council Administration gan Paul Clayden;

10fed argraffiad a gyhoeddwyd yn 2016 gan LexisNexis, yn llyfr gwerthfawr. Mae’n hanfodol bod gan y cyngor gopi o’r rhifyn diweddaraf, sy’n cael ei adnabod yn aml fel ‘beibl y clerc’, gan ei fod yn rhoi cyngor manwl ac yn cynnwys darnau o ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae Governance and Accountability for Local

Councils in Wales: A Practitioner’s Guide (2011) (a ddiwygiwyd yn 2014), a gyhoeddwyd gan Un Llais Cymru a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, yn ganllaw defnyddiol ar gyfer swyddogion ariannol cyfrifol ac ar gyfer cynghorwyr sy’n chwilio am wybodaeth fanwl am reolaeth ariannol. Mae’n egluro ‘arferion priodol’ statudol wrth reoli arian.

Mynediad i Wybodaeth am Gynghorau Cymuned a Thref (2015): canllawiau statudol gan

Lywodraeth Cymru ar gyhoeddi gwybodaeth ar y we.

Y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau

Lleol yng Nghymru: Canllawiau gan

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer aelodau cynghorau cymuned (2015).

Mae Being a Good Employer yn ganllaw hynod ddefnyddiol a gyhoeddwyd gan y National Training Strategy (Lloegr). Mae’n mynd â chi drwy bob cam o’r broses gyflogi o recriwtio i adael.

LCR (y Local Council Review gynt), yw’r cylchgrawn chwarterol a gyhoeddir gan Gymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol sydd ar gael trwy eich cyswllt yn Un Llais Cymru; ochr yn ochr â hwn ceir LCR Online (lcronline. org.uk) sy’n cael ei ddiweddaru bob wythnos ac sydd ar gael am ddim i danysgrifwyr LCR.

Mae DIS Extra yn fwletin newyddion electronig sy’n cael ei gyhoeddi bob pythefnos gan Gymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol. Mae ar gael i danysgrifwyr.

Mae Y Llais yn gylchlythyr chwarterol ar gyfer aelodau Un Llais Cymru.

Caiff The Clerk, cyfnodolyn y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ei gyhoeddi bob deufis, mewn print ac ar-lein.

Mae The Community Planning Handbook gan

Nick Wates (a gyhoeddwyd yn 2000 gan Earthscan) yn ffynhonnell ddefnyddiol a chryno ar y rhan y mae’r cyhoedd yn ei chwarae ym maes cynllunio a gweithredu.

Ein Milltir Sgwâr: Ein lle ni yn y byd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (2005), ar gael yn www.field-studies-council.org/ documents/resources/publications/EMS%20 Cymraeg.pdf

Hyfforddiant

Dylai’r cyngor fod â threfniadau ar waith ar gyfer ymsefydlu – cyflwyno cynghorwyr newydd i waith a gweithdrefnau’r cyngor. Bydd y canllaw hwn yn rhan o gyfnod ymsefydlu wedi ei deilwra i waith y cyngor penodol. Y clerc, ar y cyd â’r cadeirydd efallai, yw’r person gorau yn aml i gynnal yr hyfforddiant ymsefydlu.

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gwaith Un Llais Cymru a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yw darparu hyfforddiant i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Dylai eich cyngor ddweud wrth Un Llais

Cymru neu wrth y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol beth sydd ei angen arno o ran hyfforddiant.

Mae Un Llais Cymru (www.unllaiscymru. org.uk) yn cynnig rhaglen hyfforddi flynyddol sy’n cynnwys sawl modiwl. Mae Cymorth Cynllunio Cymru hefyd yn cynnig modiwl ar Y Broses Gynllunio ar ran Un Llais Cymru. Gellir cynnal digwyddiadau mewn mannau addas ledled Cymru, a’u cyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae Un Llais Cymru hefyd yn darparu cyrsiau pwrpasol i gynghorau sydd ag anghenion hyfforddi penodol, os oes modd. Anogir cynghorau i gynnwys darpariaeth ar gyfer hyfforddi clercod a chynghorwyr yn eu cyllidebau. Mae’n bosibl y gall Llywodraeth Cymru roi bwrsariaeth i gynghorau sydd ar incwm isel.

Mae Cyflwyniad i Weinyddu Cynghorau Lleol yn gwrs ar-lein sydd wedi’i ysgrifennu a’i ddarparu gan Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Mae’n ddefnyddiol iawn i gynghorwyr newydd, clercod a rhai sy’n dymuno bod yn glerc, gan ei fod yn rhoi cyflwyniad i waith cynghorau cymuned a thref ac mae’n cynnwys adrannau ar swyddogaethau, y gyfraith a gweithdrefnau, cyllid, rheoli, a’r gymuned. Mae’n gwrs sy’n hwylus i’w astudio gartref a gallwch wirio eich gwybodaeth drwy wneud profion ar-lein sy’n gwneud ichi feddwl yn galed. Os byddwch yn astudio’r cwrs hwn, gallwch ymuno â gweminarau’r Gymdeithas lle gallwch rannu profiadau a thrafod y materion gydag eraill. Mae’r cwrs ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ewch i www.slcc.co.uk i gael gwybodaeth bellach.

Ceir dau gymhwyster a gydnabyddir drwy’r wlad sydd wedi’u paratoi i gyd- fynd yn union ag anghenion y sector cynghorau cymuned ac sy’n hanfodol ar gyfer clercod a rhai sy’n dymuno bod yn glercod. CiLCA 2015 yw’r cymhwyster Lefel Tri, lle mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau portffolio esboniadau a dogfennau gyda nodiadau sy’n berthnasol i’w gwaith ar-lein. Yn dilyn hynny, mae’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yn darparu cymwysterau addysg uwch mewn Llywodraethu Cymunedol a ddilysir gan brifysgol cydnabyddedig ar Lefelau 4 a 5. Mae’r cymwysterau uwch yn addas ar gyfer swyddogion a chynghorwyr. Gellir cael gwybodaeth bellach gan y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus yw’r broses sy’n galluogi cyflogeion i olrhain, cofnodi a chynllunio dysgu. Mae’r Bwrdd Gwella a Datblygu (Lloegr) yn cyhoeddi canllaw ar bwyntiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (gweler www.nalc.gov.uk). Gall y canllaw hwn fod yn ddefnyddiol i gyflogwyr fel sail ar gyfer gwerthusiadau blynyddol a datblygiad swyddogion.

 

Rhestr o ddyletswyddau a phwerau cyfreithiol

Yn olaf, mae’r rhestr isod yn rhestr ddangosol o ddyletswyddau a phwerau i’ch helpu i werthfawrogi’r amrywiaeth eang o swyddogaethau y mae Deddfau Seneddol a Mesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cwmpasu, yn gryno. Mae’n ganllaw cyfeirio defnyddiol pan fydd arnoch angen gwybod a all y cyngor cymuned weithredu. Cofiwch, fodd bynnag, na all yr un rhestr gynnwys popeth.

Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn ddefnyddiol ac, yn bwysicaf oll, gobeithio y byddwch yn mwynhau eich gwaith fel cynghorydd, ac yn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned rydych yn ei gwasanaethu.

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Adeiladau cyhoeddus a neuaddau pentref Pŵer i ddarparu adeiladau ar

gyfer cyfarfodydd a chynulliadau

cyhoeddus

Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.133

Adloniant a’r celfyddydau Pŵer i ddarparu adloniant a chefnogaeth i’r celfyddydau, gan gynnwys gwyliau a dathliadau Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.145

Atal troseddau Pwerau i wario arian ar fesurau atal troseddau amrywiol Dyletswydd i arfer swyddogaethau gan ystyried yr effaith ar droseddu ac anrhefn Deddf Llywodraeth Leol a

Threthu 1997, a.31

Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, a.17

Benthyca Yn amodol ar gydsyniad

Gweinidogion Cymru, pŵer i gael benthyg arian at ddibenion cyfalaf

Deddf Llywodraeth Leol 2003, Atodlen 1 para 2
Buddsoddiadau Pŵer i gymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi ar y cyd Deddf Buddsoddiadau Ymddiriedolwyr 1961
Canolfannau Cyngor ar Bopeth Pŵer i gefnogi canolfannau Cyngor ar Bopeth Deddf Llywodraeth Leol 1972, a.142 (2A)
Canolfannau cymunedol Pwˆ er i ddarparu a rhoi offer i adeiladau cymunedol Pwˆ er i ddarparu adeiladau at ddefnydd clybiau sydd ag amcanion athletaidd, cymdeithasol neu addysgol Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.133

Deddf Llywodraeth Leol

(Darpariaethau Amrywiol) 1976, a.19

Clociau Pwˆ er i ddarparu clociau cyhoeddus Deddf Cynghorau Plwyf 1957, a.2

 

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Cod ymddygiad Dyletswydd i fabwysiadu cod ymddygiad Deddf Llywodraeth Leol 2000,  a.51
Dyletswydd ar gynghorwyr i gydymffurfio â’r cod ymddygiad Deddf Llywodraeth Leol 2000,  a.52
Cofgolofnau rhyfel Pŵer i gynnal a chadw, atgyweirio, diogelu a newid cofgolofnau rhyfel Deddf Cofgolofnau Rhyfel

(Pwerau Awdurdodau Lleol)

1923, a.1; fel y’i hestynnwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1948, a.133

Cofnodion Dyletswydd i lunio cofnodion cyfarfodydd cymunedol Dyletswydd i lunio cofnodion cyfarfodydd cyngor cymuned Paragraff 35, Atodlen 12,

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Paragraff 41, Atodlen 12,

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Corffdai ac ystafelloedd post mortem Pwerau i ddarparu corffdai ac ystafelloedd post mortem Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936, a.198
Cyfarfod blynyddol Dyletswydd i’w gynnal Deddf Llywodraeth Leol 1972, Atodlen 12, paragraff 23
Cyfarfodydd Dyletswydd i gynnal cyfarfod blynyddol Paragraff 23(1), Atodlen 12,  Deddf Llywodraeth Leol 1972
Dyletswydd i gynnal cyfarfod cyn

pen 14 diwrnod i etholiad cyngor cymuned

Paragraff 23(2), Atodlen 12,  Deddf Llywodraeth Leol 1972
Pŵer i gynnal cyfarfod arbennig Paragraff 25, Atodlen 12,

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd Paragraff 28, Atodlen 12, Deddf Llywodraeth Leol 1972
Dyletswydd i roi gwybod am amser a lleoliad cyfarfod Paragraff 26(1)(a), Atodlen 12, Deddf Llywodraeth Leol 1972
Cyfarfodydd cymunedol Pŵer i’w galw a dyletswydd i roi rhybudd Deddf Llywodraeth Leol 1972,

Atodlen 12, paragraffau 30,

30D a 30E

Cyfethol aelodau Pwerau i gyfethol personau i lenwi

swyddi gweigion Dyletswydd i hysbysebu

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985, a.21

Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006, Rheoliad 5

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru)

2011, a.116

 

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Cyfleusterau cyhoeddus Pŵer i ddarparu cyfleusterau cyhoeddus Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936, a.87
Cyfleusterau cynadledda ac arddangosfeydd Pŵer i ddarparu cyfleusterau Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.144

Cyhoeddi Dyletswydd i gyhoeddi dogfennau sy’n ymwneud â busnes y cyfarfod

Dyletswydd i gael cynllun cyhoeddi

Paragraff 26(1)(aa), (b), Atodlen

12, Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

2000

Cylchlythyrau Pŵer i ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar lywodraeth leol Deddf Llywodraeth Leol 1972, a. 142
Cyllid Dyletswydd i wneud trefniadau i weinyddu materion ariannol y cyngor yn briodol ac i sicrhau bod un o’i swyddogion yn gyfrifol am weinyddu’r materion hynny Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.151

Dyletswydd i gyfrifo cyllideb Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a.50
Pŵer i gyflwyno praesept i awdurdod bilio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a.41
Dyletswydd i gadw cyfrifon at ddibenion archwiliad Rheoliadau Cyfrifon ac

Archwiliadau (Cymru) 2014

Pŵer i wneud cyfraniadau ariannol etc at ddibenion prosiectau AGB Deddf Llywodraeth Leol 2003, adrannau 43,58
Cynllunio Gwlad a Thref Hawl i ofyn i’r awdurdod cynllunio lleol am hysbysiad o geisiadau cynllunio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Atodlen 1A, paragraff 2
Cynrychiolwyr ieuenctid Pŵer i benodi cynrychiolwyr ieuenctid Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, a.118-119
Draenio Pŵer i ddelio â phyllau a ffosydd Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936, a.260
Eiddo a dogfennau Pwerau i gyfarwyddo o ran eu cadw Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.226

Elusennau Pwerau o ran elusennau lleol Deddf Elusennau 2011, Rhan 15

 

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Goleuadau Nadolig Pŵer i annog ymwelwyr Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.144

Gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus Hawl i gael hysbysiad ynghylch cynnig i wneud gorchymyn Deddf Ymddygiad

Gwrthgymdeithasol, Troseddu a

Phlismona 2014, a.72

Gwefan Dyletswydd i sicrhau bod gwybodaeth benodedig ar gael ar ffurf electronig Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, a.55
Hamdden Pŵer i ddarparu ystod eang o gyfleusterau hamdden Deddf Llywodraeth Leol

(Darpariaethau Amrywiol) 1976, a.19

Is-ddeddfau Pŵer i wneud is-ddeddfau ar gyfer:

Corffdai ac ystafelloedd post

mortem

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936, a.198
Parciau difyrrwch Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875, a.164
Mannau parcio Deddf Rheoli Traffig y Ffyrdd 1984, a.57 (7)
Mannau agored a mynwentydd Deddf Mannau Agored 1906, a.15
Loterïau Pwerau i ddal trwydded gweithredu loteri Deddf Gamblo 2005, a.98
Llesiant Pŵer i wneud unrhyw beth y cred y cyngor ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yr ardal, yn amodol ar y cyfyngiad ar wariant yn a.137 Deddf Llywodraeth Leol 2000, a.2

 

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol tuag at gyflawni amcanion lleol yn y cynllun llesiant lleol (ac i gyflwyno adroddiad blynyddol) os oedd gwariant neu incwm gros y cyngor o leiaf £200k ym mhob un o’r tair blynedd cyn cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a.40
Llochesi bysus Pŵer i ddarparu a chynnal a chadw llochesi Deddf Llywodraeth Leol (Amrywiol) 1953, a.4
Mannau agored Pŵer i gaffael tir a dyletswydd i’w gynnal a chadw Deddf Mannau Agored 1906,  a.9 a 10
Mynwentydd ac amlosgfeydd Pŵer, fel awdurdod claddu, i gaffael a darparu dyletswydd

i gynnal a chadw

Deddf Mannau Agored 1906,  a.9 a 10
Pŵer i gytuno i gynnal a chadw henebion a chofebion Deddf Cynghorau Plwyf ac

Awdurdodau Claddu (Amrywiol)  1970, a.1

Pŵer i gyfrannu tuag at gostau mynwentydd Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.214

Mynwentydd ar gau Pwerau i’w cynnal a’u cadw Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.215

Newid hinsawdd Pŵer i hyrwyddo mesurau arbed ynni lleol Deddf Newid Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006, a.20
Parciau, parciau difyrrwch Pŵer i gaffael tir neu i ddarparu meysydd hamdden, llwybrau cerdded, parciau difyrrwch a mannau agored, a phwˆ er i’w rheoli Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875, a.164 (Deddf Llywodraeth Leol 1972, Atodlen 14, para 27)

Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1890, a.44

Deddf Mannau Agored 1906, a.9 a 10

Parciau Cenedlaethol Dyletswydd i fod yn ystyriol o’r dibenion y mae Parciau Cenedlaethol wedi’u dynodi ar eu cyfer Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a.11A

 

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Pleidleisiau cymunedol Dyletswydd i ystyried gweithredu a rhoi rhybudd Deddf Llywodraeth Leol 1972, Atodlen 12, paragraffau 26A a 29A
Priffyrdd Pŵer i wneud cytundeb ynghylch neilltuo Deddf Priffyrdd 1980, a.30
Pŵer i atgyweirio a chynnal a chadw llwybrau troed a llwybrau ceffylau Deddf Priffyrdd 1980, a.43, 50
Pŵer i blannu coed ac ati ac i gynnal a chadw ymylon ffyrdd Deddf Priffyrdd 1980, a.96
Pŵer i gwyno wrth yr awdurdod priffyrdd o ran diogelu hawliau tramwy a thir diffaith wrth ymyl y ffordd Deddf Priffyrdd 1980, a.130(6)
Pŵer i godi polion fflagiau ac ati ar briffyrdd Deddf Priffyrdd 1980, a.144
Pŵer i gyfrannu at gynlluniau gostegu traffig Deddf Priffyrdd 1980, a.274A
Pŵer i ddarparu seddau a llochesi wrth ymyl y ffordd Deddf Cynghorau Plwyf 1957, a.1
Pŵer i oleuo ffyrdd a mannau cyhoeddus Deddf Cynghorau Plwyf 1957, a.3
Pŵer i ddarparu lleoedd parcio Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a.57
Pŵer i ddarparu arwyddion traffig a hysbysiadau eraill Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a.72
Pŵer cyffredinol Pŵer i wario at ddibenion penodol nad ydynt wedi’u hawdurdodi fel arall (gweler Llesiant isod hefyd) Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.137

Rhandiroedd Pwerau i ddarparu rhandiroedd Dyletswydd i ddarparu gerddi rhandiroedd os na fodlonir y galw Deddf Tyddynnod a Rhandiroedd 1908, a.23
Rheolau sefydlog Dyletswydd i gael rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau ar gyfer cyflenwi nwyddau a deunyddiau neu ar gyfer cynnal gwaith Adran 135, Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Gweithgaredd Pwerau a Dyletswyddau Darpariaethau Statudol
Rheoli morol Pŵer i gael cyngor gan y Sefydliad Rheoli Morol

Pŵer, drwy gytundeb, i dderbyn swyddogaethau a ddirprwyir

Deddf y Môr a Mynediad i’r

Arfordir 2009, a.25

Deddf y Môr a Mynediad i’r

Arfordir 2009, a.55-57

Rhoddion Pŵer i dderbyn rhoddion Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.139

Sbwriel Pŵer i ddarparu cynwysyddion mewn mannau cyhoeddus Deddf Sbwriel 1983, a.5, 6
Staff Pŵer i benodi staff Deddf Llywodraeth Leol 1972,

a.112

Statws Pŵer i’r cyngor cymuned benderfynu y caiff y gymuned statws tref Deddf Llywodraeth Leol 1972, a.245B
Tir Pŵer i gaffael drwy gytundeb, i ddosbarthu a gwaredu tir Pŵer i dderbyn tir yn rhodd Deddf Llywodraeth Leol 1972, a.124, 126, 127

Deddf Llywodraeth Leol 1972, a. 139

Tiroedd comin a meysydd pentref Pŵer i ddiogelu tir comin a meysydd pentref pan nad yw’r perchennog wedi cofrestru Deddf Tiroedd Comin 2006, a.45
Trafnidiaeth Pŵer i sefydlu cynlluniau rhannu ceir Deddf Llywodraeth Leol a Threthu 1997, a.26
Pŵer i wneud trefniadau ar gyfer costau tacsi rhatach Deddf Llywodraeth Leol a Threthu 1997, a.28
Pŵer i ymchwilio i‘r ddarpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ac i gyhoeddi

gwybodaeth am wasanaethau o’r fath

Deddf Llywodraeth Leol a Threthu 1997, a.29
Pŵer i wneud grantiau ar gyfer gwasanaethau bysiau Deddf Trafnidiaeth 1985, a.106A
Twristiaeth Pŵer i gyfrannu at sefydliadau penodol sy’n annog twristiaeth Deddf Llywodraeth Leol 1972, a.144(2)
Y Gymraeg Dyletswydd i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a.25

19. Geirfa

Cyfeirnod Esboniad
Agenda Yr agenda yw’r rhestr o eitemau sydd i’w trafod yn ystod cyfarfod.  Yn y gyfraith, mae’n nodi’r “busnes i’w drafod”.
Archwilydd allanol Cynhelir archwiliad allanol pan fydd archwilydd penodedig y

Llywodraeth yn gwneud y gwiriad terfynol gan ddefnyddio’r ffurflen flynyddol.

Archwilydd mewnol Mae’r archwilydd mewnol yn annibynnol ar y cyngor ac mae ganddo lefel gymhwysedd briodol. Adolygiad o system reolaeth fewnol y cyngor yw’r archwiliad mewnol.
Awdurdod cynllunio Yr awdurdod cynllunio lleol yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol neu awdurdod Parc Cenedlaethol. Mae’n gyfrifol am bob penderfyniad ym maes cynllunio datblygu a rheoli datblygu.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardal. Eu nod yw gwella cydweithio rhwng asiantaethau cyhoeddus megis awdurdodau lleol, byrddau iechyd, yr Awdurdod Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae eu gwaith yn cynnwys asesu llesiant yn eu hardal a gosod amcanion mewn Cynllun Llesiant Lleol fel eu bod yn gallu cyfrannu cymaint â phosibl at nodau Llesiant Llywodraeth Cymru.
Buddiannau personol Buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill, fel y’u diffinnir yng nghod ymddygiad eich cyngor, yw buddiannau personol.
Buddiannau sy’n rhagfarnu Buddiant personol sydd mor sylweddol fel y gallai aelod gwybodus o’r cyhoedd farnu ei fod yn niweidio eich barn ar y mater yw buddiant sy’n rhagfarnu.
Cod ymddygiad Y cod ffurfiol yw hwn a fabwysiedir gan eich cyngor i reoleiddio ymddygiad cynghorwyr. Rhaid i chi ei lofnodi yn eich cyfarfod cyntaf.
Cofrestr buddiannau Dyma’r gofrestr o’ch buddiannau personol a allai effeithio ar eich penderfyniadau fel cynghorydd. Swyddog priodol y cyngor cymuned sy’n cadw’r gofrestr a rhaid eu diweddaru’n gyson. Ni ellir dyfarnu goddefebau oni fydd y buddiannau wedi eu cofrestru’n ffurfiol ymlaen llaw.
Corff corfforaethol Mae gan gorff corfforaethol fodolaeth gyfreithiol sydd ar wahân i’w aelodau unigol. Gellir mynd ag ef i’r llys, gall ymrwymo i gontract ac mae’n gyfrifol, fel corff, am ei weithredoedd.
Corff gwirfoddol Sefydlir corff gwirfoddol gan wirfoddolwyr; ond gall godi arian a chyflogi staff i wneud ei waith. Mae elusennau lleol a’r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol yn enghreifftiau.

 

Cyfeirnod Esboniad
Cworwm Cworwm yw nifer yr aelodau y mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol cyn y gellir gwneud penderfyniadau. Os oes digon o aelodau’n bresennol yna dywedir bod gan y cyfarfod gworwm. Cworwm yw traean o’r aelodaeth.
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cyfarfod o’r cyngor a gynhelir ym mis Mai fel arfer yw hwn. Dyma pryd yr etholir y cadeirydd. Gallai’r cyngor ethol is-gadeirydd, a bydd hefyd yn penodi aelodau o bwyllgorau a chynrychiolwyr ar gyrff eraill.

Efallai y caiff ei adnabod hefyd fel y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Cyfarfod Blynyddol y Gymuned neu’r Dref Cyfarfod o’r etholwyr yw hwn, nid cyfarfod o’r cyngor. Gellir ei ddefnyddio fel ffordd o gysylltu â’r gymuned, i ennyn trafodaeth neu i ddathlu. Yn wahanol i Loegr, nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Cyfethol Mae cyfethol yn digwydd pan na fydd digon o ymgeiswyr ar gyfer seddau mewn etholiad neu pan na fydd yr etholaeth yn galw am etholiad ar ôl i sedd ddod yn wag. Mae’r cyngor yn dewis rhywun  o restr o wirfoddolwyr.
Cyfrifon Papurau ariannol yw’r rhain sy’n cynnwys cofnodion o dderbyniadau a thaliadau, datganiadau o incwm a gwariant a’r fantolen.
Cynghorau sir a chynghorau  bwrdeistref sirol Cyrff llywodraeth leol eraill yng Nghymru yw’r rhain. Mae rhai o’r awdurdodau hyn yn galw eu hunain yn gynghorau dinas.
Cyllideb Y gyllideb yw’r cynllun ar gyfer incwm a gwariant dros y flwyddyn i ddod. Cynllunnir papurau gwaith i’ch helpu i benderfynu beth ddylai’r gyllideb fod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf; dylent gynnwys cymariaethau â’r blynyddoedd ariannol blaenorol a phresennol ac mae’n sail ar gyfer cyfrifiadau praesept.
Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol Dyma’r sefydliad sy’n rhoi cyngor, cymorth a hyfforddiant i glercod (gweler Rhan Pump).
Cymdeithas

Genedlaethol y

Cynghorau Lleol

Ar hyn o bryd mae Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol, sy’n cynrychioli cynghorau plwyf a thref yn Lloegr, yn negodi cyflog gyda’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Cymorth Cynllunio

Cymru

Elusen annibynnol yw Cyngor Cynllunio Cymru sy’n helpu cymunedau i ymwneud yn effeithiol â’r broses gynllunio. Mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys llinell gymorth gynghori (02920 625 000), canllawiau hawdd eu darllen (www.planningaidwales.org.uk) a hyfforddiant effeithiol ar bob mathau o faterion cynllunio. Mae Cymorth

Cynllunio Cymru wedi gweithio â chynghorau tref a chymuned ledled Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyhoeddiadau a chyrsiau hyfforddi a gynlluniwyd yn benodol i ddiwallu eu hanghenion.

 

Cyfeirnod Esboniad
Cynllun busnes Fel arfer mae cynllun busnes yn berthnasol i dymor pedair blynedd cyngor cymuned. Mae’n dangos sut y bydd y cyngor yn codi arian ac yn gwario arian yn ystod y cyfnod hwy hwn, er mwyn cyflawni ei nodau.
Cynllun cyhoeddi Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor gyhoeddi cynllun i egluro pa wybodaeth sydd ar gael a sut ac am ba gost (os o gwbl). Ceir dosbarthiadau craidd o wybodaeth y mae’n rhaid sicrhau eu bod ar gael, a dosbarthiadau dewisol o wybodaeth. Mae’n siwˆ r fod cynllun eich cyngor yn seiliedig ar y model a ddarparwyd gan y Llywodraeth.
Cynllun datblygu lleol Cynllun gofodol yw hwn sy’n ymwneud ag ardal cyngor unedol – yr ardal y mae awdurdod sirol neu awdurdod bwrdeistref sirol neu awdurdod Parc Cenedlaethol yn ei gwasanaethu.
Cynlluniau Llesiant Lleol Cafodd y cynlluniau hyn eu sefydlu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r

Dyfodol (Cymru) 2015, a chânt eu llunio gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn dilyn asesid o lesiant lleol ac ymgynghori helaeth â’r gymuned, mae’r cynlluniau’n cyflwyno cynigion ar gyfer sicrhau llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd yr ardal a wasanaethir gan y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol. Mae’n ofyniad statudol i ymgynghori â’r cyngor cymuned neu dref.

Datblygiad o

Arwyddocâd Cenedlaethol

Fel arfer, mae hwn yn ddatblygiad seilwaith yr ystyrir ei fod yn rhy bwysig i awdurdod lleol wneud penderfyniad arno a lle ystyrir bod y budd cenedlaethol yn bwysicach na’r budd lleol.
Datganiad derbyn swydd Y weithdrefn ffurfiol o dderbyn swydd cynghorydd yw hon. Dylech lofnodi’r datganiad hwn yn eich cyfarfod cyntaf neu cyn hynny.
Dirprwyo Dirprwyo yw’r weithred o drosglwyddo’r pwˆ er i wneud penderfyniad i swyddog, i bwyllgor, i is-bwyllgor neu i gyngor arall. Rhaid i’r cyngor llawn gytuno ar ddirprwyo.
Dogfen gynllunio atodol Cynhyrchir dogfen gynllunio atodol gan gyngor cymuned neu dref ac fe’i mabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’n llywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Dyletswyddau Camau y mae’n rhaid i gyngor eu cymryd, yn ôl y gyfraith, yw dyletswyddau.
Ffurflen flynyddol Mae’r ffurflen flynyddol yn ffurflen a gaiff ei llenwi a’i llofnodi gan bobl gyfrifol fel rhan o’r archwiliad allanol.
Gweithdrefnau Canllawiau yw’r rhain ar gyfer rhedeg cyngor cymuned neu dref yn unol â’r gyfraith.

 

Cyfeirnod Esboniad
Gweithdrefnau caffael Y broses y mae’r cyngor yn ei dilyn wrth brynu nwyddau a gwasanaethau. Mae’n cynnwys gofyn am dendrau a thrin tendrau mewn ffordd dryloyw a theg. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod contractau priodol wedi’u sefydlu.
Lwfans y cadeirydd Swm bach o arian yw hwn a roddir i’r cadeirydd i helpu i dalu am weithgareddau y mae’r cadeirydd yn eu cyflawni fel rhan o’i waith, megis mynychu digwyddiadau dinesig a rhoddion i ymwelwyr.
Ombwdsmon

Gwasanaethau

Cyhoeddus Cymru

Deilydd swydd annibynnol yw’r Ombwdsmon, sy’n ystyried cwynion bod cynghorau wedi camweinyddu a honiadau bod cynghorwyr wedi torri’r cod ymddygiad.
Penderfyniadau Pan gytunir ar gynnig, daw yn benderfyniad.
Praesept Pennir y praesept gan y cyngor cymuned ac mae’n cynrychioli ei gyfran o’r dreth gyngor. Mae’r bil praesept yn mynd i’r awdurdod bilio (y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol) sy’n casglu’r dreth ac yn ei dosbarthu i’r cyngor cymuned.
Pwerau Mae pwerau’n cyfeirio at y gweithgareddau y caiff cyngor gymryd rhan ynddynt, wedi’u hawdurdodi gan Ddeddf Seneddol, neu Fesur neu

Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pwyllgor Safonau Pwyllgor yw hwn o’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol a sefydlwyd i fonitro a rheoli materion sy’n deillio o’r fframwaith moesegol mewn perthynas â chynghorwyr sir, a chynghorwyr cymuned a thref.
Rheolaeth fewnol Rheolaeth fewnol yw’r system o wirio bod busnes y cyngor yn cael ei gwblhau’n briodol.
Rheoli datblygu Yr enw ffurfiol am y broses o reoli datblygiadau drwy’r broses caniatâd cynllunio yw hwn.
Statud Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw statud. Dyma’r gyfraith a rhaid ei dilyn. Mae’n cynnwys rheoliadau cyfreithiol y mae’n rhaid cadw atynt wrth weithredu’r gyfraith. Cyrff statudol yw cynghorau cymuned a thref; mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu sefydlu yn ôl statud. Mae Deddfau a Mesurau yn rheoli gweithgareddau cynghorau cymuned a thref.
Swyddog ariannol

cyfrifol

Y swyddog ariannol cyfrifol yw’r swyddog sy’n gyfrifol am weinyddu arian y cyngor. Y clerc yw’r swyddog hwn yn aml.

 

Cyfeirnod Esboniad
Swyddog Monitro Swyddog yn yr awdurdod sirol neu’r awdurdod bwrdeistref sirol yw hwn sy’n goruchwylio fframwaith moesegol y cyngor sir (neu’r cyngor bwrdeistref sirol) a chynghorau cymuned a thref yr ardal. Y fframwaith moesegol yw’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol a gynlluniwyd i gynnal safonau ymddygiad priodol gan bobl sy’n gwasanaethu mewn llywodraeth leol. Cyfeirir unrhyw achos o dorri’r cod ymddygiad at bwyllgor safonau’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol.
Swyddog priodol Term yw hwn a ddefnyddir yn y gyfraith i olygu’r swyddog a benodir gan y cyngor ar gyfer diben statudol penodol. Mewn cynghorau cymuned a thref, y clerc yw’r swyddog hwn fel arfer.
Tri diwrnod clir Mae hwn yn derm cyfreithiol. Nid yw’n cynnwys y diwrnod yr anfonwyd yr agenda, na diwrnod y cyfarfod. Nid yw’n cynnwys dydd Sul, gwyliau banc na dyddiau gwyliau’r Nadolig na’r Pasg ychwaith.
Un Llais Cymru Un Llais Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru.
Ystyriaethau perthnasol Materion yw’r rhain sy’n berthnasol i gais, yn ôl y gyfraith ar gynllunio.

 

 

Copïau pellach

Cewch gopïau pellach o’r ddogfen hon gan:

Llywodraeth Leol: Yr Is-adran Trawsnewid a Phartneriaethau

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251 191

E-bost: LGPartnerships@wales.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2017    WG30223    ISBN digidol 978-1-4734-8571-6     ISBN argraffu 978-1-4734-8679-9