Cofnodion Cyfarfod 14 Rhagfyr 2016

CYNGOR CYMUNED   LLANFAIR DYFFRYN CLWYD   COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned a gynhaliwyd yn Neuadd Eleanor, Llanfair DC nos Fercher, 14 Rhagfyr 2016 am 6.00pm.  Trefnwyd y cyfarfod hwn i ystyried ail ymateb y Cyngor i ddatblygiad arfaethedig 63 o dai ar dir oddi ar Ffordd Wrecsam, Llanfair DC gan PURE Residential & Commercial Limited, New Vision House, Parc Busnes Gweledigaeth Newydd, Ffordd Glascoed, Llanelwy LL17 0LP.  Rhaid cyflwyno sylwadau am y cais i Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Ddinbych erbyn dydd Gwener, 23 Rhagfyr 2016.

PRESENNOL – Y Cynghorwyr John Pugh [Cadeirydd], Steve Whipp

[Is-gadeirydd], David Baker, Dennis Edwards, Tim Faire, Jayne Mayers, Keith Moulsdale a Medwen Roberts, ynghyd ag Eirwen Godden, Clerc.

HEFYD YN BRESENNOL –  Ugain o drigolion ynghyd â’r Cynghorydd Hugh H Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych.

YMDDIHEURIADAU – Y Cynghorwyr Wini Davies a Rosanne Jarvis.

274  Cais Cynllunio 20/2016/1137

Croesawodd y Cynghorydd John Pugh, Cadeirydd y Cyngor Cymuned, bawb i’r cyfarfod gan esbonio bod hwn yn gyfle i drigolion lleol ddweud eu dweud, a fyddai’n hysbysu ymateb y Cyngor ar y cais cynllunio llawn a gyflwynwyd. Roedd Uwch Swyddog Cynllunio wedi cytuno i gyfarfod â chynrychiolwyr y Cyngor Cymuned unwaith y bo’r ymatebion wedi’u llunio. Aeth y Cynghorydd Pugh ymlaen i hwyluso trafodaeth ar sail cwestiwn ac ateb.

Nodwyd bod cyfarfod wedi’i drefnu gan ddau o’r trigolion lleol ar 8 Rhagfyr 2016 i roi cyfle i drigolion pryderus drafod cynigion y datblygiad. Roedd deugain o bobl yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.

274.1  Cwestiynau a/neu Sylwadau gan drigolion ac ymatebion gan y Cadeirydd 

[i]  Gwrthwynebiad – gwnaeth dau o’r trigolion yng nghyfarfod y Cyngor ei safbwynt yn glir eu bod yn gwrthwynebu’r datblygiad ar sail seilwaith annigonol, dim tystiolaeth bod angen mwy o dai ac y byddai’n creu mwy o draffig, cerddwyr a beicwyr. Awgrymwyd y gellid lleoli’r datblygiad tai ar safle’r hen ysgol unwaith y bo’r ysgol newydd wedi’i hadeiladu.

[ii]  Angen am dai – comisiynwyd adroddiad beth amser yn ôl yng nghyswllt datblygiad o 15 o dai, na wnaeth fwrw ymlaen. Teimlwyd bod angen arolwg wedi’i ddiweddaru yn awr. Mae angen tai newydd ond mae gormod o dai ar y safle arfaethedig, nid oes cysylltiad â’r pentref sy’n bodoli eisoes a dim cysylltiadau amlwg i gerddwyr rhwng y safleoedd. Mae ystod o wahanol fathau o eiddo ar y safle, ond mae angen gwybod beth yw’r galw’n lleol am y gwahanol fathau o dai, er enghraifft, teuluoedd angen tai tair ystafell wely. Nodwyd y dylai’r datblygwr fod wedi gwneud peth ymchwil ynghylch hyn.

Gofynnodd un o’r trigolion a allai’r datblygwr adeiladu tai drytach a pheidio â darparu tai rhatach. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd hyn yn bosibl, mae’n rhaid cynnig amrywiaeth fel y dangosir yn y cynnig.

[iii]  Tai fforddiadwy – gofynnwyd pwy fyddai’n rheoli’r rhain, yn dyrannu’r cartrefi, a fyddent yn cael eu gosod i bobl leol ac a allai pobl leol eu prynu. Mae’r diffiniad tai fforddiadwy yn gymhleth, ond mae’r rheol 30% wedi’i ostwng i 10% ar gyfer datblygiadau tai. Os cynhwysir mwy mewn cynllun yna gallai’r Awdurdod Lleol gael y dewis o ddefnyddio cyllid cymudol gan y datblygwr i alluogi hyn i ddigwydd. Mae’n rhaid i dai fforddiadwy gael eu rheoli gan landlordiaid cymdeithasol, p’un ai’r Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Dai, ac efallai fod ganddynt bolisïau gwahanol y mae’n rhaid eu dilyn. Bydd gan y ddau restr aros ac yn ddelfrydol dylid rhoi blaenoriaeth i bobl o’r ardal yn ôl eu angen tai, yn hytrach na phobl o fannau eraill.

[iv]  Materion Dyluniad – mynegodd un o’r trigolion ei farn nad yw toeon gwastad yn cyd-fynd ag eiddo eraill yn y pentref. Barn arall a fynegwyd yw nad yw’r cynllunwyr yn ystyried y sylwadau a wnaed eisoes o ran dyluniad gwael yn gyffredinol, nad yw’n cyd-fynd â llawer o agweddau, ac mai prin ei fod yn briodol o gwbl. Er enghraifft, dylai ansawdd y blaen fod yn well a chyd-fynd yn well â’r ardal. Nodwyd y byddai’r datblygwr yn adeiladu yn ôl y pris, beth bynnag sy’n digwydd.

[v]  Safle adwerthu – holwyd am y posibilrwydd o safle adwerthu ar y safle. Roedd siop yn y pentref yn y gorffennol. Cyfeiriwyd at siop gymunedol lewyrchus yn Mhwllglas ond mae’r fenter yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr ac mae angen sicrhau grantiau. Rhaid i’r gwirfoddolwyr fod yn gwbl ymroddedig er mwyn i’r fenter fod yn llwyddiannus.

[vi]  Traffig – mae pryder y bydd y mynediad i gerbydau i ac oddi ar yr A525 yn unig – dylid cael mynediad amgen. Mae arbenigwyr yr Awdurdod Lleol yn datgan nad yw’r ffordd yn rhy beryglus. Bydd y traffig yn cynyddu gan ei bod yn brif ffordd heb unrhyw reolaeth drosti, ond gellid cyflwyno camau i reoli cyflymder. Dylid gwneud terfyn cyflymder 20 milltir yr awr yn orfodol. Mae’r Cyngor Cymuned wedi ymgyrchu’n galed dros hyn yn y gorffennol. Bydd mynediad i gerddwyr trwy’r ystad yn effeithio ar y trigolion hynny, ond mater i’r datblygwr fyddai datrys unrhyw broblemau’n ymwneud â mynediad.

[vii]  Seilwaith / Ysgol – gofynnwyd y cwestiwn a yw’r datblygiad arfaethedig yn ddichonadwy i’r ysgol. Byddai’n rhaid i’r datblygwr ystyried y capasiti ychwanegol yn ystod y cam dylunio o ran, er enghraifft, ysgol newydd a chyfleusterau carthffosiaeth. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr Arweinydd fod datblygiad yr ysgol a’r datblygiad tai presennol yn faterion ar wahân. Mae’r cynnig ar gyfer ysgol newydd yn parhau, cyfrifwyd y capasiti sy’n ofynnol a chynhwyswyd y tir yn y Cynllun Datblygu Lleol. Disgwylir i’r Awdurdod Lleol adeiladau 7,500 o gartrefi newydd yn Sir Ddinbych.

Mae’r ysgol bresennol wedi’i hadeiladu ar dir sy’n eiddo i’r Eglwys yng Nghymru y mae’n rhaid ei werthu am bris masnachol.

[viii]  Tanciau nwy – dywedodd un o’r trigolion y byddai’n well i’r pentref gael ei gysylltu â’r brif bibell nwy ddim ond hanner milltir i ffwrdd, ac y byddai hyn o fudd i’r ysgol hefyd. Ystyriwyd eu bod yn colli cyfle yma, gan ychwanegu y gallai trigolion fod yn fodlon talu. Teimlwyd y gallai’r datblygwr ychwanegu’r gost i’r datblygiad hwn yn hawdd.

Dywedodd y Cadeirydd fod y mater hwn wedi’i godi rhyw bymtheg mlynedd yn ôl pan gyflwynodd Pentrecelyn gais am gyflenwad nwy a charthffosiaeth, ond hysbyswyd y trigolion y byddai’n rhaid iddynt dalu am y gwasanaethau hyn eu hunain. Mae’n rhaid i gost o’r fath fod yn ddichonadwy i’r datblygwr. Fodd bynnag, yn y datblygiad newydd bydd cost cynnal a chadw draeniau a thanciau nwy yn gyfrifoldeb y datblygwr. Os yw’r datblygwyr yn rhoi’r gorau i fasnachu mae bond yn bodoli i dalu’r gost. Bydd y pwynt ynghylch cysylltu â’r prif gyflenwad nwy yn cael ei ychwanegu at y rhestr i’w ystyried gan y cynllunwyr.

[ix]  Gwagle agored –  mae pryder am leoliad y gwagle agored ar y safle, pa mor agos yw’r gwagle at y brif ffordd ac a yw’n ddiogel ar gyfer gemau pêl. Atgoffwyd pawb bod angen i’r gwagle agored fod yn hygyrch i bawb yn y gymuned, yn cynnwys plant. Awgrymwyd symud yr ardal gwagle agored i leoliad mwy canolog ar y safle, gyda thai yn edrych dros yr ardal. Serch hynny, mae angen gosod yr ardal ddraenio fel y dangosir ar y cynlluniau. Bydd gan yr ysgol newydd ei gwagle cymunedol ei hun hefyd fel adnodd ychwanegol.

[x]  Barn trigolion – gan fod mwyafrif y trigolion yn denantiaid mynegwyd pryder y byddai’r Awdurdod Lleol yn anwybyddu eu barn. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad ar yr ymgynghoriad gan PURE, cymal 3.1 – nid yw’n achos o’r ymgeisydd yn diystyrru’r sylwadau, yn hytrach, yn dilyn ystyried, eu barn yw nad yw diwygio’r cynlluniau yn briodol dan yr amgylchiadau. Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn dweud y byddant yn anwybyddu unrhyw beth nad ydynt yn cytuno ag ef, ym marn y Cadeirydd. Bwriedir codi’r mater hwn gyda’r Uwch Swyddog Cynllunio.

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd penderfynu sut i symud ymlaen, er enghraifft, ar y sail bod graddfa’r datblygiad yn ormodol, bod angen ymdrin â’r mynediad a’r cysylltiadau i gerddwyr. Rhaid ymdrin ag unrhyw agweddau technegol, er enghraifft, draeniad, tanciau, carthffosiaeth, a rhaid cael cadarnhau na fydd llifogydd yn digwydd.

Gwnaeth yr Arweinydd sylw ei bod yn bwysig nad yw pobl leol mewn sefyllfa waeth na’u sefyllfa bresennol. Rhaid iddynt ystyried beth wnaiff wneud gwahaniaeth, beth fydd y mater allweddol a fydd yn atal ffyrdd peryglus ac yn eu gwneud yn ddiogel. Ymhellach, rhaid iddynt benderfynu beth y gallant ac na allant ei gael o’r datblygiad.

[xi]  Amserlen – y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 23 Rhagfyr 2016. Wedi hynny gallai’r cais gael ei ystyried gan aelodau’r Pwyllgor Cynllunio tuag at ganol Ionawr 2017.  [NODYN AR GYFER Y COFNODION – Ers y cyfarfod derbyniodd y Cyngor Cymuned wybodaeth ar 16 Rhagfyr 2016 fod y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion wedi’i newid i 11 Ionawr 2017 gan yr Adran Cynllunio a’r cynharaf y gallai’r cynigion datblygu fynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio fyddai Chwefror 2017].

274.2  Casgliad a Chonsensws

[a]  Mae’r datblygiad arfaethedig yn rhy fawr, mae’r trigolion am gael ymdeimlad pentref nid tref

[b]  Rhaid cael mynediad i gerddwyr i’r pentref ac eithrio ar hyd yr A525

[c]  Mae angen ymdrin ag ansawdd y dyluniad a materion technegol o ran seilwaith, nwy, dŵr a draeniad

[ch]  Rhaid i dai fforddiadwy gyd-fynd â’r galw yn y gymuned

[d]  Yr amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt lleol – ni roddwyd digon o ystyriaeth i’r sylwadau a gyflwynwyd eisoes. Os oes angen cynefin penodol ar gyfer rhywogaethau penodol ar sail tystiolaeth bydd angen atgoffa’r Awdurdod Lleol am hyn

[dd]  Dylid adleoli’r gwagle agored i ganol y safle, oddi wrth yr A525.

Gan nad oedd rhagor o fusnes i’w drafod diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a chyhoeddi bod y cyfarfod wedi gorffen am 7.10 pm.

275  DYDDIAD CYFARFOD NESAF Y CYNGOR – Dydd Mercher 4 Ionawr  2017